Deunydd Pacio Anrhegion a Theganau
Ailgylchu gartref
Mae deunydd pacio teganau ac anrhegion yn aml yn cynnwys gwahanol ddeunyddiau, fel cardbord, papur a phlastig. Gellir ailgylchu rhai o’r rhain, ond nid rhai eraill. Bydd angen eu gwahanu cyn ailgylchu.
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae’n bosibl ailgylchu deunyddiau pacio anrhegion a theganau mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Sut i ailgylchu deunydd pacio anrhegion a theganau
- Fflatiwch gardbord i’w wneud yn haws i’w gludo i gyfleusterau ailgylchu neu i ffitio mwy yn eich bag neu fin ailgylchu gartref; 
- Mae pecynnau plastig sydd â marc PET neu PETE arnynt yn cael eu hailgylchu gan y rhan fwyaf o gynghorau lleol, ond holwch eich cyngor lleol yn y lle cyntaf; 
- Tynnwch y ffenestri plastig oddi ar focsys cardbord cyn eu hailgylchu – dylid gosod y ffenestr blastig yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu; 
- Tynnwch yr handlenni rhaff neu ruban oddi ar fagiau anrhegion – gellir eu hailddefnyddio neu gallwch eu rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu; 
- Ni ellir ailgylchu’r weiars clymu fel arfer, ond gellir eu hailddefnyddio o amgylch y cartref, er enghraifft i glymu coesau planhigion yn yr ardd neu i gau pecynnau o lysiau rhewgell sydd ar eu hanner. 
Mae’n dda gwybod
Pecyn swigen yw math o ddeunydd pacio plastig a gaiff ei wneud i ffurfio swigen sy’n amgylchynu’r eitem. Mae rhai o’r nwyddau sy’n cael eu pacio mewn swigod fel hyn yn cynnwys:
- Batris; 
- Teganau; 
- Nwyddau ac ategolion trydanol (Cof bach/USB, ceblau a chlustffonau); 
- Brwsys dannedd a fflos dannedd; 
- Nwyddau DIY (nyts, bolltau, sgriwiau a hoelion); 
- Tabledi a chapsiwlau; 
- Offer ysgrifennu (Superglue, pinnau ysgrifennu, clipiau papur, pinnau bawd ac ati); 
- Nwyddau sy’n torri’n hawdd (cetris argraffu); 
- Nwyddau gyda rhannau bregus.