Skip to main content
English
English

Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn ymwneud â gwefan Cymru yn Ailgylchu a’r cymhwysiad Lleoliad Ailgylchu.

Mae’r wefan a’r cymhwysiad hwn yn cael eu cynnal gan WRAP. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan a’r cymhwysiad hwn. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau disgleirdeb a ffontiau;

  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin;

  • llywio’r rhan fwyaf o’r cymhwysiad gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig;

  • llywio’r rhan fwyaf o’r cymhwysiad gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais; a

  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r cymhwysiad gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Hefyd, rydym wedi gwneud testun y wefan a’r cymhwysiad mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae AbilityNet yn cynnwys cyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a manylion cyswllt

Os ydych angen y wybodaeth yn y cymhwysiad hwn mewn fformat gwahanol, cysylltwch ag:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu yn ôl â chi.

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: Daniel Neal, Rheolwr Digidol, WRAP – daniel.neal@wrap.org.uk