
Newyddion Ac Ymgyrchoedd
Chwefror Trwsio: Sut mae’r Caffi Trwsio’n arbed amser ac arian i mi ac yn helpu i ddiogelu’r blan...
Yn Cymru yn Ailgylchu, rydyn ni’n falch o gefnogi Chwefror Trwsio – menter dan arweiniad Caffi Trwsio Cymru sy’n ymwneud â thrwsio, yn hytrach na binio. Diolch i’r mudiad Caffi Trwsio, galli gael trwsio eitemau sydd wedi torri am ddim mewn un o fwy na 140 o Gaffis Trwsio ledled Cymru. Mae gwirfoddolwyr medrus eisoes wedi trwsio mwy na 21,000 o eitemau, gan arbed dros £1 miliwn mewn atgyweiriadau am ddim i bobl.