Skip to main content
English
English

Newyddion ac ymgyrchoedd

Cadwch yn gyfredol am beth sy'n digwydd yn y byd ailgylchu

Porwch categorïau

Sut mae’r Caffi Trwsio’n arbed amser ac arian i mi ac yn helpu i ddiogelu’r blaned

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Sut mae’r Caffi Trwsio’n arbed amser ac arian i mi ac yn helpu i ddiogelu’r blaned

Diolch i’r mudiad Caffi Trwsio, galli gael trwsio eitemau sydd wedi torri am ddim mewn un o fwy na 140 o Gaffis Trwsio ledled Cymru. Mae gwirfoddolwyr medrus eisoes wedi trwsio mwy na 21,000 o eitemau, gan arbed dros £1 miliwn mewn atgyweiriadau am ddim i bobl.

Darganfyddwch fwy
Arbed amser, arbed arian a phweru Cymru i Rif 1 dros y Dolig

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Arbed amser, arbed arian a phweru Cymru i Rif 1 dros y Dolig

Mae tymor yr Ŵyl yn ei anterth – mwy o brydau bwyd, mwy o ddanteithion… a mwy o wario. Ac er ein bod ni i gyd wrth ein boddau gydag ychydig o wledda Nadoligaidd, does neb eisiau taflu arian (na bwyd) gwerthfawr i’r bin. Yng Nghymru, mae aelwyd gyffredin o bedwar person yn taflu gwerth tua £84 o fwyd bob mis – a gyda gwleddoedd, danteithion a bwyd dros ben ychwanegol dros y Nadolig, gall y ffigur hwnnw godi hyd yn oed yn uwch. Ond gydag ambell dric syml, fe alli di leihau gwastraff, ymestyn dy fwyd Nadoligaidd ymhellach, arbed arian, a hyd yn oed helpu i bweru cartrefi ledled Cymru. Mae pawb ar eu hennill dros yr Ŵyl!

Bobl ifanc Cymru: Mae angen ysgogwyr newid fel chi arnom i’n helpu i gael y canlyniad gorau posibl wrth ailgylchu!

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Bobl ifanc Cymru: Mae angen ysgogwyr newid fel chi arnom i’n helpu i gael y canlyniad gorau posib...

Rhag ofn nad oeddech chi’n gwybod, mae Cymru’n gwneud yn eithriadol o dda yn ailgylchu, ac wedi cyrraedd yr ail safle yn y byd erbyn hyn. Mae’n gyflawniad anhygoel, ond gadewch i ni fod yn realistig – does neb yn hoffi bod yn ail. Dyna pam mae angen eich cymorth chi arnom ni i roi Cymru ar y brig. Hoffech chi ymuno? Roeddem ni’n meddwl y byddech chi. Dyma sut gallwch chi wneud iddo ddigwydd… ac mae’r cyfan yn dechrau â bwyd.

Ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon