Skip to main content
English
English
Gwenwch i'ch bwyd fynd Ymhellach

Arbed arian a chreu pŵer i Gymru

Dysgwch sut i arbed arian a chreu ynni adnewyddadwy drwy fanteisio i’r eithaf ar eich bwyd

Mae’r aelwyd gyfartalog yng Nghymru’n taflu £49 y mis

Mae’r aelwyd gyfartalog yng Nghymru’n taflu £49 y mis

Mae 90% ohonom yn cytuno na ddylai bwyd FYTH fynd i’r bin, ond rydyn ni’n taflu digon o fwyd i lenwi 3300 o fysiau deulawr, sy’n costio ffortiwn i ni!

Arbed amser ac arian

Arbed amser ac arian

Achubwch eich arian rhag y bin drwy droi’r bwyd sydd dros ben yn yr oergell yn brydau bwyd blasus, hyblyg a hawdd, ac ailgylchu’r hyn na allwch ei fwyta i helpu creu pŵer!

Porwch ein 7 pryd blasus am ysbrydoliaeth.

Sut mae gwastraff bwyd yn creu pŵer?

Pan gaiff ei gasglu o’ch cartref, caiff gwastraff bwyd ei gludo i gyfleuster ‘treulio anaerobig’ ble mae’r methan yn cael ei harneisio i greu bio-nwy, sy’n cynhyrchu ynni. Gwyliwch fideo Matt Pritchard i weld y broses anhygoel hon ar waith!

Ddim yn ailgylchu dy wastraff bwyd ar hyn o bryd? Ymuna â’r 80% ohonom sy’n gwneud eisoes drwy archebu cadi yma.

Tips rysetiau gwych i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach

Prin ar amser ond eisiau osgoi gwastraffu bwyd da ac arian? Porwch ein syniadau rysetiau hawdd, hyblyg a maethlon sydd wedi’u cynllunio i roi hwb ddidrafferth i’ch hoff brydau bwyd a byrbrydau.

Tortilla gyda rhywfaint o lenwad ar blât wrth ymyl padell yn llawn llenwad

Ailgylcha dy wastraff bwyd fel pro – 5 tip gwych gan Matt i osgoi’r “ych a fi”

“Mae rhai pobl yn meddwl y gall ailgylchu gwastraff bwyd fod braidd yn ‘ych a fi’ – ond does dim rhaid iddo fod”. Mae ailgylchu ein gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon mewn gwirionedd, ac mae’n lanach na’i roi yn y bin. Galli osgoi’r elfen ych a fi drwy ddilyn tips gwych Matt.

Yn galw holl athrawon!

Yn galw holl athrawon!

Gweithgaredd addysgol am ddim sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm â chystadleuaeth.

Dysgwch fwy neu rhannwch gydag athro