Skip to main content
English
English
Sgrin gluniadur yn ddangos y teclyn Lleolydd Ailgylchu

Amdanom Ni

Ein teclyn Lleolydd Ailgylchu

Ar y dudalen hon

Mae ein teclyn Lleolydd Ailgylchu wedi bod yn helpu dinasyddion Cymru fod yn ailgylchwyr gwell trwy roi gwybodaeth am beth y gallant ei ailgylchu ac ymhle.

Trwy roi eich cod post yn ein teclyn Lleolydd Ailgylchu, gallwch ddarganfod yn union beth mae eich cyngor lleol yn ei dderbyn yn eu casgliad ailgylchu – fe wnawn ni hyd yn oed ddweud wrthych chi ym mha fin neu fag i’w roi!

Gallwch hefyd wirio a oes gennych chi gasgliad gwastraff o’r ardd a dod o hyd i fanylion cysylltu eich cyngor lleol, rhag ofn bod gennych ymholiadau am ddyddiau casglu neu i gael biniau yn lle hen rai.

Nodwch eich cod post i wirio

Dod o hyd i’ch lleoliadau ailgylchu agosaf ar gyfer eitemau eraill

Gan nad yw’n bosibl ailgylchu pob deunydd na phob eitem gartref, mae’r Lleolydd Ailgylchu hefyd yn caniatáu ichi ddod o hyd i’ch lleoliadau agosaf ar gyfer ailgylchu unrhyw beth o fagiau plastig i ddillad i wastraff adeiladu.

Bydd y Lleolydd Ailgylchu’n rhoi’r pellter bras o’ch cod post chi i bob un o’ch lleoliadau agosaf, bydd yn rhestru eitemau eraill a dderbynnir ar yr un safle, a bydd yn darparu map.

I gael gwybodaeth fanwl a chynghorion ar sut i ailgylchu eitemau bob dydd ac eitemau anoddach eu hailgylchu, ewch i fwrw golwg ar ein canllaw A–Y ar ailgylchu cannoedd o eitemau.

Dod o hyd i’ch lleoliadau ailgylchu agosaf ar gyfer eitemau eraill

Ymgorffori’r Lleolydd Ailgylchu ar eich gwefan

Darganfod sut i ymgorffori’r Lleolydd Ailgylchu ar eich gwefan

Sut i adrodd problem gyda'r data ar y Lleolydd Ailgylchu

Darganfod sut i adrodd problem gyda'r data ar y Lleolydd Ailgylchu

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon