Skip to main content
English
English
A banner featuring a row of newly grown pumpkins.

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Achub dy bwmpenni Calan Gaeaf rhag y bin sbwriel

Ar y dudalen hon

Fel rhan o’n hymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. dros Galan Gaeaf eleni, rydyn ni ar gyrch i achub ein bwyd rhag ffawd ddychrynllyd: y bin sbwriel!

Mae Cymru yn ail yn y byd am ailgylchu, ac mae hynny’n anhygoel, ond y peth brawychus yw bod cynnwys bron i chwarter ein biniau sbwriel yn wastraff bwyd o hyd, ac mae 80% o hwnnw’n fwyd y gellid bod wedi’i fwyta!

Mae’n fwy na dim ond gwastraffu’r adnoddau a gymerodd i’w tyfu a’r arian i’w prynu, dylai unrhyw wastraff bwyd fynd i’r cadi bwyd er mwyn iddo gael ei droi’n ynni adnewyddadwy i Gymru.

Mae nifer ddychrynllyd o bwmpenni’n mynd heb eu bwyta dros gyfnod Calan Gaeaf (13 miliwn – waaaa!). Rydyn ni wedi meddwl am rysetiau hawdd a chreadigol i’w mwynhau’r hydref hwn fel nad oes dim yn cael ei wastraffu.

Rysáit 1: Gwedd wahanol ar gawl pwmpen

Bydd angen: Pwmpen (dal dy afael ar y hadau!), winwnsyn, llysiau gwraidd (cennin, moron, tatws...), past cyri coch Thai, stoc llysiau, powdr tsili, halen, llaeth cnau coco. 

Mae hi’n dymor Calan Gaeaf, a hefyd yn dymor gwneud cawliau cynhesol yn ein ceginau. Mae’r rysáit cawl pwmpen syml hon yn gynhesol a blasus a bydd yn cadw’n dda am ychydig ddyddiau – felly dyna ginio’r rhan fwyaf o’r wythnos wedi’i sortio! Mae’n figan a heb glwten, felly mae’n addas i bawb. Rydyn ni wedi ychwanegu ychydig o sbeis at ein fersiwn ni, ond galli hepgor y cam hwnnw os yw'n well gen ti rywbeth mwynach.

I ddechrau, torra hanner pwmpen maint canolig wedi'i phlicio (dal dy afael ar yr hadau – bydd eu hangen arnat wedyn!), winwnsyn ac unrhyw lysiau eraill sydd angen eu defnyddio yn yr oergell – meddylia am gennin sy’n egino, moron sy’n meddalu, a’r amrywiol datws sy’n llechu yn y cefn. Rho badell fawr i dwymo, ychwanegu ychydig o olew ac yna taflu'r llysiau wedi'u torri’n fân i mewn a'u coginio nes eu bod yn dechrau tywyllu.

Nawr dyma'r cynhwysyn cyfrinachol: ychwanega ddwy neu dair llwy fwrdd o bast cyri coch Thai (fersiynau figan ar gael), yn dibynnu ar ba mor sbeislyd rwyt ti’n ei hoffi, a’i goginio am ychydig funudau. Nesaf, ychwanega giwb stoc llysiau a digon o ddŵr i orchuddio’r llysiau, cyn mudferwi am 15 i 20 munud nes eu bod yn feddal. Tra bod y cymysgedd yn ffrwtian, tostia’r hadau pwmpen mewn padell ffrio fach gyda phowdr tsili a halen, gan ofalu peidio â’u llosgi.

Nawr y cwbl sydd ar ôl i’w wneud yw ychwanegu can o laeth cnau coco a rhoi’r cymysgedd mewn prosesydd bwyd neu gyda blendiwr ffon a blendio nes ei fod yn llyfn a sidanaidd. Rho’r cawl mewn powlen, taenu hadau pwmpen wedi'u tostio ar ei ben, a'i weini gyda bara gwyn meddal.

A bowl of creamy pumpkin soup topped with pumpkin seeds.

Rysáit 2: Crempog pwmpen sawrus

Bydd angen: pwmpen (wedi'i pilio a'i sleisio'n denau), bresych neu llysiau gwyrdd eraill dros ben, blawd, ŵy, olew coginio. Gellir defnyddio shibwns, sinsir wedi'i biclo fel topin... neu ddarnau dros ben o'r oergell.

Am rywbeth ychydig yn wahanol, dyma grempogau wedi'u hysbrydoli gan y dull okonomiyaki Japaneaidd. Crempogau sawrus yw’r rhain sy’n ffordd wych o ddefnyddio bwyd dros ben, gan y gellir defnyddio’r ambell wy olaf yn yr oergell, a’u llenwi â bresych neu lawntiau, gan ychwanegu pethau fel mochi, egin ffa ac yn bwysicaf oll, pwmpenni! Mae llawer o archfarchnadoedd yn gwerthu pwmpen Japaneaidd o'r enw kabocha ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ond mae pwmpenni cyffredin yn gweithio cystal.

Dechreua trwy gymysgu 100g o flawd plaen a 100ml o ddŵr gyda'i gilydd a gosod y cymysgedd o'r neilltu. Yna, bydd angen torri chwarter bresych a chwarter pwmpen mor denau â phosib cyn eu ffrio'n ysgafn mewn olew (mae olew sesame yn wych ar gyfer y rysáit hon, os oes gen ti beth), ar wres canolig-uchel. Ychwanega nhw i’r cymysgedd cytew gyda phinsiad o halen, ac yna ei gyfuno ag wy (paid ag anghofio y gall y plisgyn fynd i’r bin gwastraff bwyd i’w ailgylchu!).

Pan fydd y gymysgedd wedi'i gyfuno'n llyfn, twyma’r olew mewn padell ffrio ac arllwys y cytew i ffurfio siâp crwn yng nghanol y badell. Coginia nhw am 3-4 munud ar bob ochr, gan ymarfer dy sgiliau fflipio, ac yna ei roi ar blât a mwynhau! Fe allet ti ychwanegu topins Japaneaidd, fel shibwns, mayonnaise, gwymon aonori, a sinsir wedi'i biclo. Neu rywbeth hollol wahanol, yn dibynnu beth sydd angen ei fwyta yn yr oergell!

Os wyt ti'n coginio gyda phlant, beth am eu hannog i fod yn greadigol a gwneud siapau Calan Gaeaf arswydus?

A plate of delicious savoury pancakes.

3. Mws pwmpen

Bydd angen: pwmpen (purî), hufen dwbl, caws hufen, siwgr mân, fanila, sinamon, sinsir a nytmeg. 

Trawsnewidia dy bwmpen yn bwdin blasus gyda'r rysáit syml mws pwmpen syml hon. Mae'n drît delfrydol ar gyfer dêt arswydus Calan Gaeaf neu noson ffilm arswyd gyda ffrind ac mae’n barod mewn 10 munud os, ar ôl i ti gerfio dy bwmpen Calan Gaeaf, y byddi’n yn cymryd ychydig o amser i gasglu cymaint o'r tu mewn â phosibl, a'i rostio tan mae’n feddal, ac yna blendio’r cyfan i wneud piwrî mewn cymysgydd bwyd.

Tip gwych: ar gyfer y rysáit hon, dylai’r piwrî pwmpen a’r caws hufen ddod yn syth o’r oergell fel eu bod yn dal yn oer neis.

I wneud digon o’r mws hwn i ddau o bobol, dechreua drwy chwipio 150g o hufen dwbl oer nes ei fod bron yn anystwyth. Mewn powlen arall, casgla dy gynhwysion eraill at ei gilydd: 125g o biwrî pwmpen, 100g o gaws hufen, llwy fwrdd o siwgr mân, hanner llwy de o fanila, chwarter llwy de o sinamon mâl, pinsied o sinsir wedi'i falu ac ychydig o nytmeg.

Cymysga nhw i gyd at ei gilydd yn dda, ac yna chwisgo nes eu bod wedi'u cyfuno'n llawn i wneud cymysgedd llyfn.

Nesaf, plyga’r hufen i mewn i’r cymysgedd pwmpen a llwyo neu beipio (dewisa drwyn llydan i dy fag peipio) y cymysgedd i mewn i bowlenni pwdin bach neu hyd yn oed wydrau coctel, os wyt ti’n teimlo’n ffansi. Galli eu gweini fel ag y maen nhw, neu roi gwedd grand iddyn nhw gyda thalp o hufen chwipio, diferyn o siocled wedi toddi neu fisgedi pwdin ar y naill ochr.

Pumpkin Mousse topped with cream swirls.

Rysáit 4: Defnyddio’r hadau pwmpen / hadau pwmpen rhost

Bydd angen: hadau pwmpen ac eich dewis o unrhyw cyflasynnau (melys neu sawrys). 

Yn ogystal â thopin cawl crensiog, mae hadau pwmpen yn gwneud byrbryd blasus ar gyfer marathon ffilm arswyd. Mae’n syml, jyst eu rhostio am 10-15 munud ar glawr pobi yn y ffwrn gydag ychydig o halen, olew a/neu fenyn. Fe allet ti hefyd fynd am fersiwn melys gydag ychydig o sinamon a siwgr, neu fersiwn sbeislyd gydag ychydig o naddion paprica neu tsili. (Meddylia am dy hoff flas popgorn!)

A baking tray full of roasted pumpkin seeds.

Nid rysáit mo hon, ond syniad hyfryd ar gyfer defnyddio'r hadau pwmpen dros ben. Mae hwyaid wrth eu boddau gyda nhw, felly beth am fynd ar daith i'ch parc lleol a bwydo ein ffrindiau pluog? Mae plant yn ychwanegiad dewisol ond ddim yn hanfodol! Yn wahanol i fara, mae hadau pwmpen yn iach ac yn faethlon i hwyaid a bywyd gwyllt arall, ac mae’n ffordd wych o gysylltu â natur wrth i ni anelu at y gaeaf.

Beth i’w wneud â’r rhannau na ellir eu bwyta

Yn olaf, does neb eisiau bwyta croen a thop y bwmpen, ac mae hynny’n iawn – ond cofia roi’r darnau hyn yn y cadi gwastraff bwyd ynghyd â rhannau anfwytadwy eraill, fel plisg wyau, esgyrn a choesynnau, iddyn nhw gael eu hailgylchu yn i wneud ynni adnewyddadwy!

Gallai ailgylchu croen dim ond un bwmpen bweru’r teledu yn ddigon hir i wylio Hocus Pocus a'r Addams Family un ar ôl y llall, a byddai ailgylchu dim ond pum bag te yn creu digon o bŵer i wefru dy ffôn clyfar yn barod ar gyfer anfon dy wahoddiadau parti Calan Gaeaf.

Gwna addewid i atal gwastraff bwyd brawychus

Galli ein helpu i gael Cymru i rif 1 drwy achub dy fwyd rhag y bin sbwriel y Calan Gaeaf hwn a thu hwnt. Gwna’r addewid heddiw ac fe allet ti ENNILL gwyliau epig i Bluestone neu antur yng Nghymru!

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon