Skip to main content
English
English
Banana, carrot, chicken, egg and leek foodie characters with the text: Join the Mighty Food Waste Mission!

Ymunwch â’r Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych

Gweithgareddau am ddim, ar thema'r gwanwyn, sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm ar gyfer plant 5 i 11 mlwydd oed, gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ailgylchwyr i wastraffu llai ac ailgylchu mwy!

Mae’r gwanwyn yn dymor o newid – sy’n ei wneud yn amser perffaith i ailfeddwl gwastraff bwyd. Cymru eisoes yw 2ail orau’r byd am ailgylchu, ond rydyn ni’n anelu at Rif 1, a chadw gwastraff bwyd allan o’r bin sbwriel yw’r prif beth y gallwn ei wneud i gyrraedd yno! Wyddoch chi mai gwastraff bwyd yw cynnwys chwarter y bin sbwriel cyfartalog yng Nghymru o hyd, a gellid bod wedi bwyta’r rhan fwyaf ohono?

Ynglŷn â’r Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych

Wedi’i greu gydag athrawon, mae’r pecyn gweithgaredd hwyliog a deniadol hwn yn helpu dysgwyr archwilio sut gall lleihau gwastraff bwyd ac ailgylchu’r hyn sydd ar ôl amddiffyn ein planed a brwydro yn erbyn newid hinsawdd – a hynny oll gan gysylltu â dathliadau’r byd go iawn yn ystod y gwanwyn fel Dydd Mawrth Crempog, Eid, Sul y Mamau a’r Pasg. 

Mae'r gweithgareddau ystafell ddosbarth yn cyd-fynd â'r Cwricwlwm i Gymru, yn cefnogi amcanion dysgu allweddol, a gellir defnyddio gwaith eich dysgwyr fel rhan o dystiolaeth Eco-Sgolion eich ysgol. 

Delwedd o genhinen, wy, pwmpen, sleisen o gyw iâr a banana gydag wynebau darluniadol. Mae'r testun yn darllen: Mae ail yn wych - cyntaf nesaf!

Beth sydd angen i chi ei wneud

Cam 1 – Lawrlwytho’r cyflwyniad a dewis y gweithgareddau sy’n bodloni anghenion eich dysgwyr orau, gan wneud unrhyw addasiadau sydd eu hangen. 

Cam 2 – Cyflwyno eich dewis o blith y gweithgareddau.  

Cam 3 – Annog eich dysgwyr i ddod yn ddinasyddion gweithgar drwy fynd â’u gwaith adref i’w rannu gyda'u rhieni neu ofalwyr. 

Cofrestrwch i lawrlwytho ein hadnoddau am ddim

Mae’r Ymgyrch Gwastraff Bwyd Gwych yn rhan o ymgyrch cenedlaethol ‘Bydd Wych. Ailgylcha’ Cymru yn Ailgylchu, sy’n cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 a rhoi hwb i Gymru i gyrraedd rhif 1 yn y byd am ailgylchu.

Gallwch ddysgu mwy am ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha