Skip to main content
English
English

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Dyma Haf i Hoffi Ail-law: Steil, heulwen ac opsiynau cynaliadwy

Dyma ein Uwch Reolwr Marchnata, Angela Spiteri, yn rhannu sut mae hi'n cadw ei wardrob haf yn chwaethus, yn fforddiadwy ac yn gyfeillgar i'r blaned.

Mae'r haf yn ei anterth, ac ar ôl misoedd o wisgo haenau mae'n teimlo'n braf iawn rhoi cyfle i fy nillad hafaidd llachar, trawiadol serennu. O briodasau i wyliau cerddoriaeth i fynd ar wyliau, mae cymaint o gyfleoedd i wisgo'n smart – ond mae yna hefyd lawer o demtasiwn i wario arian ar ddillad newydd.

Yn union fel y Nadolig, gall yr haf olygu cynnydd mewn gwastraff, ond y newyddion da yw bod mwy ohonom yn gwneud dewisiadau sy’n fwy ystyriol o'r blaned. Yma yng Nghymru, rydyn ni eisoes yn ail genedl orau’r byd am ailgylchu, ac mae bron i 70% ohonom yn prynu dillad ail-law o leiaf weithiau. Dychmyga’r gwahaniaeth y gallem ni ei wneud pe baem yn troi hynny'n arfer rheolaidd?

Y peth gorau yw nad yw gwisgo'n gynaliadwy yn golygu aberthu steil na hwyl. Os rhywbeth, dw i'n meddwl ei fod yn gwneud ffasiwn yn fwy creadigol, mynegiannol a llawer mwy fforddiadwy. Felly dyma tips gen i ar gyfer edrych yn chwaethus, teimlo'n wych, a chwarae dy ran dros y blaned yr haf hwn.

Wardrob gwyliau: Dewisiadau ail-law ac ailddarganfod perlau

Mae yna bob amser ryw awydd i brynu swp o ddillad cyn mynd i ffwrdd, ond cyn i mi brynu unrhyw beth, rydw i bob amser yn dechrau trwy “siopa yn fy wardrob fy hun”. Mae sesiwn o gyfuno a chyfateb cyflym fel arfer yn tynnu fy sylw at berlau cudd a hen ffefrynnau roeddwn i wedi anghofio amdanyn nhw – ac mae'n anhygoel beth galli di ei greu heb wario ceiniog.

Pan fydd angen rhywbeth newydd arnaf i, Vinted yw fy hoff ddewis am ddillad gwyliau fforddiadwy ac ail-law. Mae’r un mor hawdd â siopa ar-lein, ond yn llawer mwy cyffrous pan ddoi di o hyd i ddarnau unigryw, trawiadol, sy’n cael effaith isel ar yr amgylchedd. Cyn fy nhaith ddiweddar i Wlad Groeg, fe wnes i brynu eitemau ardderchog gan gynnwys ffrog enfys hyfryd am £2 sydd wedi dod yn un o hanfodion yr haf i mi, yn ogystal â llawer o drysorau eraill.

Tip gwych: Os wyt ti’n prynu eitemau ail-law ar-lein, cofia ganiatáu ychydig o amser ychwanegol iddyn nhw gael eu postio i ti.

Mae siopau elusen a siopau hen bethau hefyd yn wych ar gyfer dod o hyd i ddarnau trawiadol gyda’u stori eu hunain, yn enwedig pan fydda i eisiau rhywbeth gydag ychydig o gymeriad.

Ffasiwn Gŵyl: Disgleirio’n gynaliadwy

Mae gwyliau yn gyfle perffaith i fynegi eich creadigrwydd gyda gwisgoedd trawiadol – Dyma le i arbrofi gyda secwinau, lliwiau trawiadol ac ategolion chwareus.

Mae'n syndod pa wisgoedd gŵyl y gellir eu creu gydag eitemau sydd gen ti eisoes yn dy wardrob. Sgert ysgafn gyda thop trawiadol ac esgidiau trwm neu bymps llachar = glam gŵyl mewn amrantiad. Gyda choron flodau ac ychydig o lwch llachar, mi fyddi di’n barod amdani.

Pan fydda i eisiau rhoi hwb i fy nghasgliad gŵyl, rydw i bob amser yn dechrau gyda phethau ail-law – mae yna ddetholiad diddiwedd o secwinau ail-law a thrysorau unigryw.

O bryd i’w gilydd, dw i’n rhoi trît i mi fy hun gyda dilledyn newydd ar gyfer gŵyl, ond dw i’n dewis ffasiwn araf, nid ffasiwn cyflym: darnau unigryw, wedi’u gwneud â llaw gan wneuthurwyr annibynnol a allai gostio ychydig yn fwy, ond sy’n teimlo’n arbennig ac wedi’u gwneud i bara. Mae rhai o fy hoff eitemau gŵyl wedi bod gen i ers 15-20 mlynedd ac maen nhw’n dal i sefyll allan mewn gwyliau heddiw.

Priodasau ac Achlysuron Arbennig: Cofleidio rhywbeth hen a rhywbeth ar fenthyg!

Mae priodasau yn gyfle gwych i wisgo dillad gwych, ond yn aml dim ond unwaith y mae'r gwisgoedd hynny'n cael eu defnyddio. Yn lle prynu rhai newydd sbon, rwy'n ceisio cymysgu, cyfuno, a steilio darnau sydd gen i’n barod mewn ffyrdd newydd i greu golwg ffres.

Os oes angen rhywbeth gwahanol arnaf, mae benthyca gan ffrind bob amser yn syniad da. Ac ar gyfer achlysuron mwy ffansi, mae rhentu yn opsiwn gwych arall. Cei wisgo rhywbeth hyfryd a moethus heb y gost, yr ymrwymiad na'r annibendod. Mae'n arbed arian a lle yn y wardrob, ac yn osgoi gwastraff. Gwych-gwych-gwych.

Dillad Plant: Ail-law a phasio i lawr

Rhwng cyfnodau o dwf cyflym, staeniau glaswellt ac anhrefn cyffredinol, gall ffasiwn haf i blant deimlo'n ddiddiwedd. Dyna pam rydw i'n troi at bethau ail-law yn gyntaf – yn enwedig ar gyfer pethau ar gyfer y gwyliau a gwisg ysgol.

Boed wedi'i basio i lawr gan ffrindiau, wedi'i gasglu mewn siopau cyfnewid lleol, neu wedi'i brynu'n ail-law ar-lein, mae wedi arbed ffortiwn fach i ni dros y blynyddoedd. Rydyn ni wedi rhoi (a derbyn) bwndeli o bethau sydd mewn cyflwr gwych o hyd, yn barod i gael eu mwynhau gan yr anturiaethwr bach nesaf.

Felly p'un a byddi di’n dawnsio mewn cae, yn hedfan i rywle heulog, neu jyst yn rhedeg ar ôl y plant o amgylch parc lleol – gwna hynny mewn steil, arbed arian, a chadw pethau’n gynaliadwy.

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon