Skip to main content
English
English
A barbecue in the foreground with food on it. In the background is blurred people standing around a table.

News & Campaigns

Gadewch inni gael Cymru i #1! Llwyddiannau ailgylchu hawdd ar gyfer y gwanwyn a'r haf

Mae Cymru eisoes yn 2il wlad orau’r byd am ailgylchu – ond rydyn ni’n anelu at y brig! A pha amser gwell i adnewyddu dy arferion na thymor y picnics a phartïon yn yr ardd?

P'un a fyddi di’n cynnau'r barbeciw, mynd i ŵyl, neu’n tacluso dy gartref a'r ardd, mae digon o ffyrdd syml o ailgylchu mwy – a helpu i wneud gwahaniaeth go iawn. 

Dyma 5 ffordd syml o gadw pethau'n wyrdd wrth i ti fwynhau misoedd yr haf.

1. Ailgylcha dy ffoil – tybiau, deunydd lapio a’r cyfan

Am gael barbeciw neu fwynhau picnic? Mae dalennau ffoil, hambyrddau a chasys a ddefnyddir ar gyfer lapio neu weini bwyd i gyd yn ailgylchadwy. Gwna’n siŵr eu bod nhw'n lân cyn eu rhoi yn dy fag neu fin ailgylchu.  

Wyddost di, mae ailgylchu metel yn defnyddio tua 95% yn llai o ynni na'i gynhyrchu o ddeunyddiau crai, a gellir ei ailgylchu'n ddiddiwedd heb i’w ansawdd ddirywio, felly paid â gadael i'r ffoil fynd yn wastraff! 

Yn anffodus, ni ellir ailgylchu barbeciws tafladwy. Gwna’n siŵr ei fod wedi oeri'n llwyr (gall hyn gymryd sawl awr) cyn ei roi yn y sbwriel cyffredinol. 

2. Iechyd da – cofia dy ganiau a photeli!

P'un a fyddi di’n mwynhau diodydd oer mewn barbeciw, ar y traeth, neu mewn gŵyl, cofia ailgylchu'ch rhai gwag. Mae caniau metel, poteli gwydr, a'r rhan fwyaf o boteli diod plastig yn hawdd eu hailgylchu ledled Cymru. 

Mae dim ond 1 can wedi'i ailgylchu yn arbed digon o ynni i bweru teledu am 2 awr, felly gwna’n siŵr dy fod yn rhoi’r can neu botel yn y bin ailgylchu cywir – p'un a wyt ti gartref, mewn maes gwersylla neu mewn torf. 

3. Torri i lawr ar wastraff bwyd, nid ar hwyl 

Mae partïon gardd, picnics a gwleddoedd ar ddiwrnodau heulog yn aml yn golygu bwyd ychwanegol – a gwastraff ychwanegol. Ceisia gynllunio ymlaen llaw, defnyddio’r hyn rwyt ti’n ei brynu, a bydd yn greadigol gyda bwyd dros ben. O salad pasta cyflym i blateidiau o ffrwythau, mae digonedd y galli di ei greu gyda'r hyn sydd gen ti eisoes. 

Methu ei fwyta? Ailgylcha fe! Gall holl wastraff bwyd – gan gynnwys esgyrn, plisgyn wyau a bagiau te – fynd i’r cadi gwastraff bwyd. Yng Nghymru, mae ein gwastraff bwyd yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy, gan bweru cartrefi ledled y wlad. 

4. O siampŵ sych i ddiaroglydd – gellir ailgylchu aerosolau 

Ymbaratoi ar gyfer priodas, noson allan, neu ŵyl? Gall caniau gwag o siampŵ sych, diaroglydd, chwistrell gwallt neu gel eillio oll fynd i’w hailgylchu. Gweithred fach, effaith fawr: mae ailgylchu dwy erosolau yn arbed digon o ynni i bweru set DJ ar gyfer un awr. 

5. Papur, cardbord a deunydd pacio 

O focsys lolipops iâ a phecynnu byrbrydau i barseli sy'n cyrraedd gyda dy archebion hafaidd – gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o gardbord a phapur. Tynna unrhyw ddarnau na ellir eu hailgylchu fel ffenestri plastig neu dâp gludiog a fflatio’r bocsys i arbed lle yn y bin ailgylchu.

6. Gwneud dy ardd yn wyrdd mewn ffordd ddoeth

Chwynnu, torri glaswellt neu blannu'r plot llysiau hwnnw o'r diwedd? Paid â gadael i dy wastraff gardd fynd yn wastraff. Mae'r rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru yn cynnig ailgylchu gwastraff gardd, gan droi dy dorion yn gompost a ddefnyddir gan ffermwyr a garddwyr ledled y wlad. 

Edrycha ar wefan dy gyngor lleol i weld beth sy'n cael ei gasglu yn dy ardal a phryd. 

3 recycling bins in a line against the backdrop of Barry Island beach

7. Ailgylchu allan o amgylch y fro – lle bynnag yr aiff yr haf â thi  

Trip dydd? Ymweld â digwyddiadau, traethau neu fannau twristaidd? Diolch i reolau ailgylchu newydd yng Nghymru, mae'n rhaid i bob man cyhoeddus a busnes bellach ddarparu biniau ailgylchu ar gyfer papur, cardbord, gwydr, plastig a gwastraff bwyd. 

Felly, p'un a fyddi di'n bwyta byrbrydau yn un o atyniadau gwych Cymru neu'n mwynhau cwpl o ddiodydd mewn digwyddiad, galli ailgylchu yn union fel rwyt ti’n ei wneud gartref – gan helpu i gadw Cymru'n lân ac yn wyrdd. 

Ailgylchu'n dda drwy'r gwanwyn a'r haf yw un o'r ffyrdd symlaf y galli di helpu i ddiogelu’r blaned. Mae pob eitem rwyt ti’n ei hailgylchu yn ein dwyn un cam yn nes at wneud Cymru yn rif un yn y byd. C’mon Cymru, fe allwn ni wneud hyn!

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon