Skip to main content
English
English
A photo of many outdoor recycling bins outside a workplace building

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Cyfraith Ailgylchu yn y Gweithle newydd Cymru: popeth rydych angen ei wybod

Ar y dudalen hon

Dyma ragor am pam mae hynny’n newyddion da i’r blaned a beth mae’n ei olygu i chi pan fyddwch yn crwydro yma ac acw.

Yma yng Nghymru, rydym eisoes yn falch o fod yn drydedd genedl orau’r byd am ailgylchu, ond wnawn ni ddim stopio ar hynny. Y newyddion gwych ydi ein bod ni fel cenedl ar fin dod yn hyd yn oed gwell am ailgylchu, diolch i ddeddfwriaeth newydd a ddaeth i rym yn ddiweddar, sy’n golygu y bydd busnesau a sefydliadau yn gorfod gwahanu eu deunyddiau ailgylchadwy yn yr un ffordd ac mae’r rhan fwyaf ohonom eisoes yn ei wneud yn ein cartrefi.

Dyma ragor am pam mae hynny’n newyddion da i’r blaned a beth mae’n ei olygu i chi pan fyddwch yn crwydro yma ac acw.

Beth sydd wedi newid, a pham?

Mae cymaint â 95% o bobl yng Nghymru yn ailgylchu’n rheolaidd yn eu cartrefi, sy’n wych. Ond i gyrraedd targedau ailgylchu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru – i ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 a chyrraedd rhif un y byd – rhaid i ni fynd hyd yn oed ymhellach. Gall dros 70% o’r deunyddiau mewn gwastraff masnachol gael eu hailgylchu, a dyna yw targed y gyfraith ‘Ailgylchu yn y Gweithle’ newydd. Mae’r ddeddfwriaeth hon, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2024, wedi ei gwneud yn gyfraith i weithleoedd (o swyddfeydd i ysgolion i fwytai) i wahanu deunyddiau ailgylchadwy yn yr un ffordd ac mae’r mwyafrif ohonom yn ei wneud yn ein cartrefi, gan gynnwys:

  • Papur a cherdyn

  • Gwydr

  • Metel, plastig, a chartonau a deunydd pacio tebyg arall (er enghraifft cwpanau coffi)

  • Bwyd – pob safle sy’n cynhyrchu 5kg neu fwy o wastraff bwyd mewn unrhyw saith diwrnod yn olynol

  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach sydd heb eu gwerthu (sWEEE) a

  • Tecstilau sydd heb eu gwerthu.

A trio of images. Image 1 is recycling bins lined up outside a castle wall. Image 2 is 4 bins on grass opposite festival banners.  Image 3 shows recycling bins lined up outside against a wall with a sandy beach in the background.

Golyga hyn y bydd gennym hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ailgylchu, p’un ai rydym allan yn crwydro, yn y swyddfa neu ar y campws. Mewn geiriau eraill, lle bynnag yr ydych, a p’un ai yr ydych yn gweithio, yn gorffwys neu’n chwarae, bydd gennych fynediad at finiau ailgylchu a byddwch yn gallu eu defnyddio yn union fel rydych chi gartref. Gwych!

Nod y gyfraith newydd yw sicrhau fod gweithleoedd yn ailgylchu cystal ag rydym ni eisoes yn ei wneud gartref, gan helpu’r economi i greu Cymru wyrddach a chefnogi busnesau i leihau gwastraff a hyd yn oed arbed arian.

Mae’r ymgyrch i ailgylchu yn y gweithle yn gwella safon y deunyddiau a ailgylchir a’r swm a ailgylchir, a gellir wedyn eu defnyddio gan weithgynhyrchwyr yng Nghymru, gan leihau’r defnydd o ddeunyddiau newydd sbon. A pheth arall, gellir ailgylchu bwyd i greu ynni adnewyddadwy, ac yn 2023 yn unig, fe gynhyrchon ni ddigon o ynni i bweru dros 10,000 o gartrefi. Meddyliwch faint yn fwy gallwn ni eu pweru nawr!

Rhai o’r gweithleoedd sy’n arwain y gad

Mae’r rhan fwyaf o weithleoedd ledled Cymru eisoes wedi ymateb i’r ddeddfwriaeth ailgylchu newydd ac yn arwain y ffordd yn eu sectorau.

Gyda 200,000 o westeion bob blwyddyn, a bron i 900 aelod staff, mae Bluestone National Park Resort yn cynhyrchu tua 650,000 tunnell o wastraff bob blwyddyn. Er bod y gyrchfan wedi ymroi i ailgylchu gwastraff bwyd ers tro, sy’n cael ei drawsnewid i ynni adnewyddadwy ar safle treulio anaerobig lleol, maen nhw bellach wedi uwchraddio eu cyfleusterau ailgylchu ‘sych’. Mae’r uwchraddiad hwn yn cynnwys symud o system un bag gwyrdd i finiau gwahanol ar gyfer papur a cherdyn, plastig a chaniau.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, maent wedi newid y biniau ar draws y campws cyfan ac mae ganddyn nhw bellach system saith bin i wahanu deunyddiau gwahanol. Maen nhw wedi sicrhau eu bod yn gyson yn y ffordd maen nhw’n defnyddio labeli, lliwiau a symbolau i’w gwneud yn haws i fyfyrwyr a staff ailgylchu, a’r canlyniad yw ailgylchu o safon well.

Yn olaf, yn Ysgol Rhiw-Bechan ym mhentref Tregynon ym Mhowys, mae’r genhedlaeth nesaf yn ailgylchu’n frwdfrydig i helpu eu hysgol a’u gwlad ddod yn fwy ecogyfeillgar.

Os ydych yn berchen ar fusnes, neu’n gyfrifol am ailgylchu yn eich gweithle, gallwch gael hyd i lawer mwy am y ddeddfwriaeth newydd draw ar ein gwefan Y Busnes o Ailgylchu. Mae safle rhif un bron o fewn ein cyrraedd!

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon