Skip to main content
English
English
A shot from behind a young person holding a sewing needle with thread. On the table in front of them are many colourful threads on bobbins.

Sut i Ailgylchu

Lleihau ac ailddefnyddio: y ‘gwneud y tro a thrwsio’ newydd

Ar y dudalen hon

Yma yng Nghymru rydym yn gwneud cynnydd mawr o ran gweithio tuag at y targed uchelgeisiol o ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050, gyda 95% ohonom eisoes yn ailgylchu’n frwd. Ond i wneud bod yn ddiwastraff yn realiti, bydd yn rhaid i ni ychwanegu ychydig mwy at ein trefn arferol – nid ailgylchu yn unig, ond lleihau ac ailddefnyddio hefyd.

Mae lleihau’r deunyddiau rydym yn eu prynu a sicrhau bod pethau’n parhau i gael eu cylchredeg am gyhyd â phosibl yn lleihau ein dibyniaeth ar ddeunyddiau newydd ac yn lleihau faint o wastraff a gynhyrchir yn y lle cyntaf. Canfu arolwg BIT gan Lywodraeth Cymru yn 2021 fod 79% o’r 8,000 o bobl a holwyd yn fodlon trwsio ac ailddefnyddio deunyddiau – felly heb ddiymdroi, dyma sut i wneud hynny!

A photo of a clean brightly lit shop with jars displayed on a central platform and on shelves along the walls containing dry goods such as rice, pulses and grains.

Lleihau

Mae siopa diwastraff yn lleihau deunydd pacio drwy roi'r cyfle i chi ail-lenwi ac ailddefnyddio cynwysyddion rydych chi eisoes yn berchen arnynt. Mae prynu rhai eitemau bwyd a nwyddau ymolchi o siopau diwastraff hefyd yn arbed arian, yr un pryd ag amddiffyn y blaned – llwyddiant!

Byddwch fel arfer yn dod o hyd i fwydydd sych fel pasta, reis, codlysiau a blawd yn y siopau hyn, ac mae rhai yn cynnig pethau fel olew olewydd a llaeth ceirch. A gallwch wneud hyn gyda mwy na bwyd yn unig – mae'n debyg y byddwch chi'n dod o hyd i nwyddau glanhau fel hylif golchi llestri a phowdr golchi hefyd, felly dewch â digon o dybiau a photeli gwag i'w hail-lenwi!

Mae lleihau faint o wastraff bwyd y mae eich cartref yn ei gynhyrchu hefyd yn ffordd wych o arbed arian ac amddiffyn y blaned. Bydd cynllunio prydau bwyd yn ofalus, maint dognau a defnyddio bwyd dros ben i gyd yn helpu i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach, a chewch lawer mwy o gyngor ar hyn gan ein chwaer frand Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff.

Ailddefnyddio

Mae yna lawer o ffyrdd i groesawu'r cysyniad o 'ailddefnyddio', a llawer o resymau gwych dros wneud hynny! Mae prynu eitemau ail law yn sicrhau bod gwrthrychau’n parhau i gael eu defnyddio, gan eu cadw allan o safleoedd tirlenwi ac ailgylchu a byw bywyd defnyddiol. Yn ôl Arolwg Lleihau, Ailddefnyddio, Atgyweirio diweddar WRAP, mae'n bur debyg eich bod eisoes yn prynu pethau ail law o ran pethau swmpus fel dodrefn ac offer hamdden fel beiciau a sgwteri. Canfu'r arolwg fod 21% ohonom yn debygol o brynu'r olaf yn ail law, ac mae 15% ohonom eisoes yn barod i brynu dodrefn sydd wedi cael gwedd newydd.

A top down image of a selection of furniture in a store like sofas, barstools, tables and shelving all in different colours and styles.

Mae dodrefn yn lle gwych i ddechrau wrth chwilio am ffyrdd o ailddefnyddio yn hytrach na phrynu rhai newydd. O ddarnau teuluol wedi'u trosglwyddo i aelodau’r teulu i ddodrefn IKEA sydd wedi cael gwedd newydd, gall eich helpu i ddodrefnu'ch cartref ar gyllideb – efallai y byddwch hyd yn oed yn cael gafael ar ddarn o ddodrefn na fyddech wedi gallu ei fforddio yn newydd! Ewch i'ch siopau elusen lleol neu'r siop yn eich canolfan ailgylchu agosaf i weld pa fargeinion y gallwch chi ddod o hyd iddynt, neu edrychwch ar eBay neu Facebook Marketplace i ddod o hyd i werthwyr lleol.

Mae dillad yn faes arall lle gallwch brynu yn ail law, gan helpu i ymladd yn erbyn effeithiau amgylcheddol niweidiol ffasiwn sy’n cael eu gwneud yn gyflym a’u gwerthu’n rhad. Beth am ddewis dillad ail law pan fyddwch chi'n prynu rhywbeth newydd ar gyfer gŵyl haf, priodas neu barti Nadolig? Yn aml, gall dillad ail law fod o ansawdd gwych, yn unigryw ac yn chwaethus, am ffracsiwn o'r gost.

a rail of second hand clothes in many colours, a hand has pulled out a hanger with a blue and white patterned top on it.

Cofiwch, gallwch hefyd roi dillad nad oes eu hangen arnoch mwyach i elusen fel y gall eraill eu hailddefnyddio – neu eu gwerthu ar wefannau fel Vinted i wneud ychydig o arian poced ychwanegol wrth sicrhau eu bod yn parhau i gael eu cylchredeg.

Rhoi gwedd newydd i rywbeth

Rhoi gwedd newydd i rywbeth yw eich cynghreiriad o ran ailddefnyddio. Os ydych chi'n teimlo'n greadigol, gall rhoi gwedd newydd i ddillad neu ddodrefn fod yn ffordd hwyliog o greu gwisg newydd neu ddarn o ddodrefn. Trwy drawsnewid hen eitemau yn bethau y gallwch eu hailddefnyddio am flynyddoedd, byddwch yn ymestyn oes yr eitem ac yn ei atal rhag cael ei daflu neu segura yng nghefn cwpwrdd heb gael ei ddefnyddio. Nid yn unig y mae hyn yn rhoi prosiect creadigol i chi, ond yn y broses o greu rhywbeth unigryw, rydych hefyd yn lleihau eich ôl troed carbon ac yn arbed arian! Mae pawb ar eu hennill. Ydych chi am roi bywyd newydd i hen ddillad? Dyma ein hawgrymiadau gwych o ran rhoi gwedd newydd wrth greu gwisgoedd cwbl newydd o’r hyn sydd gennych eisoes, neu wneud defnydd o ddillad na ellir eu trwsio.

  • Gwnïwch fotymau, secwins neu ddarnau ffabrig newydd ar ddillad – peidiwch byth â diystyru pŵer secwins! Mae gwnïo botymau lliwgar, darnau o ffabrig newydd neu bethau sgleiniog fel secwins ar ddillad yn ychwanegu diddordeb yn syth at hen ddilledyn, ac nid yw'n cymryd llawer o sgiliau gwnïo.

  • Trowch y trowsus yn siorts – mae torri'r coesau oddi ar bâr o hen drowsus neu jîns yn rhoi pâr o siorts newydd ar unwaith i chi heb unrhyw ymdrech na chost.

  • Lliwiwch eich dillad mewn lliw gwahanol – ydi’r pinc golau bellach ddim yn gweithio i chi? Does dim angen prynu crys cwbl newydd – dim ond ei liwio!

  • Torrwch hen ddillad – os yw'ch dillad mor llawn o dyllau fel na ellir eu trwsio, peidiwch â digalonni! Torrwch nhw a'u defnyddio fel dillad glanhau, gwnïwch nhw gyda'i gilydd i wneud gorchudd gwely ar ffurf clytwaith, blanced ar gyfer y soffa, gwely neu flanced i’r ci neu crëwch fag ar gyfer eich siopa. Gallwch chi hyd yn oed eu defnyddio i greu papur lapio unigryw ar gyfer anrhegion pen-blwydd.

A blanket made form patches of old clothes in various colours and patterns

Mae rhoi gwedd newydd i ddodrefn hefyd yn brosiect da ac yn un a all drawsnewid edrychiad ystafell ac nid oes rhaid i chi wario llawer. Cydiwch mewn tun o baent ac ychydig o dâp, edrychwch ar yr awgrymiadau sylfaenol wrth baratoi arwyneb i'w beintio a pharatowch i droi'r silff lyfrau pinwydd oren honno yn ddodrefn hardd! Gallwch hyd yn oed sandio'r paent yn y corneli i roi gwedd 'shabby chic' iddo. Neu, beth am drawsnewid drysau a droriau cypyrddau trwy roi handlenni newydd iddynt? Lleihau ac ailddefnyddio yw'r 'gwneud y tro a thrwsio’ newydd, a phan allwch chi gael llawer o hwyl ac arbed arian yn ogystal â rhoi help llaw i'r blaned, does dim angen meddwl dwywaith. Felly dewch Gymru – gadewch i ni fod yn greadigol a gwneud byw’n ddiwastraff yn realiti!

A person painting with a paintbrush with bright blue paint onto a dark brown drawer

Mae’n dda gwybod

Mae mwy a mwy o siopau diwastraff yn agor ledled Cymru. Gallwch brynu eich bwyd mewn siopau diwastraff lleol, lle gallwch fynd â chynwysyddion gyda chi a’u hail-lenwi gyda chymaint neu cyn lleied ag y dymunwch.

Mae gan rai siopau diwastraff jariau am ddim a gyfrannwyd, a gallwch eu defnyddio os nad oes gennych gynwysyddion gartref.

Sicrhewch eich bod yn storio eich bwyd yn gywir, a defnyddiwch fwyd dros ben i wneud rysetiau newydd. I gael cynghorion defnyddiol ar storio bwyd, rysetiau blasus a chyngor ar ddogni a chynllunio prydau, ewch i Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon