1 Hyrwyddwr yr Hyrwyddiad yw WRAP, sydd yn Elusen gofrestredig yn y DU (rhif 1159512), a’i gyfeiriad yw Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, OX16 5BH.
2 Mae’r gystadleuaeth raffl wobrau am ddim hon yn agored i breswylwyr y DU sy’n 18 mlwydd oed neu’n hŷn. Ni chaniateir i gyflogeion WRAP, partner/iaid sy’n rhan o’r gystadleuaeth, nac aelodau o’u teuluoedd nac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r Hyrwyddiad mewn unrhyw ffordd neu sy’n helpu i drefnu’r Hyrwyddiad gymryd rhan ynddo.
3 O gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad, ystyrir eich bod wedi derbyn y telerau ac amodau hyn felly darllenwch nhw’n ofalus cyn cymryd rhan yn yr Hyrwyddiad.
4 Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch drwy gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad yn cael ei gadw a’i brosesu gan yr Hyrwyddwr neu ar ei ran yn unol â Pholisi Preifatrwydd WRAP sydd ar gael yma https://wrap.org.uk/privacy-policy ac fe’i defnyddir mewn cysylltiad â’r Hyrwyddiad hwn yn unig.
5 Mae’r Hyrwyddiad yn dechrau ddydd Llun 14eg Hydref 2024 am 00:01 (GMT) a daw i ben am 23:59 (GMT) ddydd Gwener 29ain Hydref 2024.
6 Rhaid i geisiadau gael eu derbyn o ddydd Llun 14eg Hydref 2024 am 00:01 (GMT) a chyn 23:59 (GMT) ar ddydd Gwener 29ain Tachwedd 2024. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir y tu allan i'r cyfnod hwn yn ddilys.
7 Gallwch gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad yma https://www.walesrecycles.org.uk/cy/bydd-wych-ailgylcha. Cyfyngir y ceisiadau i un ymgais fesul person, fesul cyfeiriad e-bost. Os bydd ymgeisydd yn cyflwyno mwy nag un cais fesul cyfeiriad ebost, yna dim ond y cyntaf ar gyfer y cyfeiriad e-bost hwnnw fydd yn cyfrif.
8 Bydd 7 enillydd o blith yr holl geisiadau dilys ar https://www.walesrecycles.org.uk/cy/bydd-wych-ailgylcha. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap ddydd Llun 2il Rhagfyr 2024 gan WRAP o blith yr holl geisiadau dilys a gyflwynwyd ar www.walesrecycles.org.uk/be-mighty-recycle.
9 Bydd yr enillwyr yn derbyn, fel a ganlyn: Bydd yr enillydd cyntaf, a ddewisir ar hap, yn ennill gwyliau i 6 o bobl i Bluestone Resort. Bydd yr ail enillydd, a ddewisir ar hap, yn ennill tocynnau VIP i Folly Farm. Bydd y trydydd enillydd, a ddewisir ar hap, yn ennill Profiad ZipWorld. Bydd y pedwerydd enillydd, a ddewisir ar hap, yn ennill ymweliad â’r Sw Fynydd Gymreig gyda bwyd wedi’i gynnwys. Bydd y pumed enillydd, a ddewisir ar hap, yn ennill Taith Antur yn y Royal Mint Experience. Bydd y chweched enillydd, a ddewisir ar hap, yn ennill tocynnau teulu i Plantasia. Bydd y seithfed enillydd, a ddewisir ar hap, yn ennill Tocyn Crwydro Cadw ar gyfer 4 o bobl. Mae’r holl wobrau’n amodol ar argaeledd.
10 I gystadlu rhaid i chi: lenwi'r ffurflen a thicio'r addewid a'r opsiwn cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Mae’r ffurflen ar gael yma https://www.walesrecycles.org.uk/cy/bydd-wych-ailgylcha. Rhaid i chi hefyd fod yn hŷn nag 18 oed ac yn byw yng Nghymru, a darparu eich cyfeiriad ebost, enw a lleoliad yng Nghymru.
11 O gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad, rydych yn rhoi caniatâd i WRAP ddefnyddio’ch enw mewn cyfathrebiadau am yr hyrwyddiad hwn, ac ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Cymru yn Ailgylchu.
12 Cysylltir â’r enillydd drwy’r cyfeiriad ebost a ddefnyddiwyd i gymryd rhan yn y Gystadleuaeth erbyn 23:59 ddydd Mercher 4ydd Rhagfyr 2024.
13 Rhaid i’r enillwyr roi prawf o hunaniaeth a phrawf o’u cyfeiriad cartref yng Nghymru i’r Hyrwyddwr i gadarnhau eu bod yn gymwys cyn cael eu cadarnhau fel yr enillwyr terfynol a chyn trefnu i’r wobr gael ei dosbarthu. Bydd yr Hyrwyddwr yn rhoi cyfeiriad ebost yr enillydd i roddwyr y Gwobrau er mwyn dosbarthu gwobrau.
14 Os na fydd yr Hyrwyddwr yn derbyn ymateb gan yr enillydd/wyr o fewn 72 awr o’i ymgais gyntaf i gysylltu, mae’r enillydd/enillwyr yn gwrthod eu gwobr, neu canfyddir wedyn bod y cais yn annilys neu’n torri’r telerau ac amodau hyn yna bydd y wobr(au) yn cael eu fforffedu, a bydd gan yr Hyrwyddwr yr hawl i ddewis enillydd(wyr) arall.
15 Bydd y gwobrau'n cael eu dosbarthu i'r enillwyr i’w eu cyfeiriad e-bost.
16 Nid yw’r Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â’r wobr nad ydynt wedi’u cynnwys yn benodol yn y wobr.
17 Ceidw’r Hyrwyddwr yr hawl i gyfnewid gwobr o’r un gwerth neu werth uwch os na fydd y wobr(gwobrau) gwreiddiol ar gael mewn amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth resymol. Mae'r gwobrau'n anghyfnewidiol, ni ellir eu trosglwyddo, ac ni ellir eu hawlio fel arian neu wobrau eraill.
18 Ceidw’r Hyrwyddwr yr hawl ar unrhyw adeg ac o bryd i’w gilydd i addasu neu ddod â’r Hyrwyddiad i ben, dros dro neu’n barhaol, gyda neu heb rybudd ymlaen llaw am resymau y tu hwnt i’w reolaeth.
19 Ni fydd yr Hyrwyddwr yn atebol am unrhyw fethiant i dderbyn ceisiadau ac nid yw’n cymryd unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau coll, gohiriedig, annarllenadwy, llygredig, difrodedig, anghyflawn neu annilys fel arall.
20 Nid yw’r Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod, colled, atebolrwydd, anaf neu siom a achosir neu a ddioddefir o ganlyniad i gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad neu dderbyn y wobr. Ni fydd unrhyw beth yn eithrio atebolrwydd yr Hyrwyddwr am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i’w esgeulustod.
21 Os bydd unrhyw ddarpariaeth yn y telerau ac amodau hyn yn cael ei hystyried yn annilys gan unrhyw gyfraith, rheol, gorchymyn neu reoliad unrhyw lywodraeth, neu gan benderfyniad terfynol unrhyw lys ag awdurdodaeth gymwys, ni fydd annilysrwydd o’r fath yn effeithio ar y gallu i orfodi unrhyw ddarpariaethau eraill.
22 Bydd penderfyniad yr Hyrwyddwr mewn perthynas â’r holl faterion sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth ar y mater.
23 Bydd enw’r enillwyr ar gael 28 diwrnod ar ôl y dyddiad cau drwy ebostio’r cyfeiriad canlynol walesrecycles@wrap.ng0
24 Mae’r Hyrwyddiad a’r telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr.
Telerau ac Amodau Gwobrau Ychwanegol
Bluestone: Bydd yr enillydd yn derbyn 4 noson o wyliau hunan-arlwy Winter Lights yn un o gabanau St Govan yn Bluestone gyda lle i hyd at 6 o bobl. Y dyddiad cyrraedd ar gyfer y gwyliau yw dydd Llun 3ydd Chwefror 2025. Nid yw dyddiadau’r gwyliau na’r math o gaban yn drosglwyddadwy. Mae’r wobr hefyd yn cynnwys defnyddio bygi trydan digon mawr i 6 o bobl am ddim, i’ch helpu i grwydro’r gyrchfan. Mae Telerau ac Amodau yn berthnasol. Ni fydd arian parod fel dewis amgen i’r wobr yn cael ei gynnig. Ceidw Bluestone yr hawl i gyfnewid unrhyw wobr gyda gwobr arall gyfwerth heb roi rhybudd.
Cadw: Bydd yr enillydd yn derbyn cod disgownt i’w gyfnewid am Docyn Crwydro 7 diwrnod am ddim o siop docynnau ar-lein Cadw. Bydd cyfarwyddiadau’n cael eu rhoi i’r enillydd drwy ebost. Rhaid defnyddio’r cod disgownt erbyn 4ydd Tachwedd 2025. Gellir defnyddio’r Tocyn Crwydro 7 diwrnod ar nifer diderfyn o safleoedd, ar unrhyw 7 diwrnod mewn cyfnod o 14 diwrnod olynol yn dilyn yr ymweliad cyntaf. Bydd tocynnau crwydro’n mynd yn annilys yn awtomatig naill ar ôl diwrnod 14 ers ei ysgogi neu ar y seithfed tro y caiff ei ddefnyddio ar gyfer tocyn saith diwrnod, pa bynnag un sy’n digwydd gyntaf.
Folly Farm: Mae’r wobr tocyn VIP yn cynnwys y canlynol (ar gyfer hyd at bedwar person): Mynediad i’r parc, Band arddwrn reidiau diderfyn (ac eithrio Go Karts, Big Dig, y reid VR a gemau stondin ymyl), Pryd o fwyd am ddim naill ai ym mwyty’r Hungry Farmer neu’r Burger Bar, Diod oer neu boeth am ddim- Hufen iâ am ddim (hufen ia meddal, yn eithrio fflêc a suropau). Bydd Folly Farm yn trefnu i’r tocyn teulu VIP gael ei ebostio’n uniongyrchol i’r enillwyr. Bydd y wobr yn ddilys i’w hawlio ar unrhyw un diwrnod pan fo Folly Farm ar agos (does dim angen archebu) a bydd yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad y caiff tocyn y wobr ei greu. Rhaid i’r ddesg docynnau weld y tocyn gwobr gyda chod bar arno er mwyn rhoi eu bandiau arddwrn VIP a thalebau i’r gwesteion pan fyddant yn cyrraedd – ni ellir derbyn tocynnau sydd wedi mynd ar goll neu wedi’u hanghofio. Ni ellir cyfnewid y wobr nac ei drosglwyddo am nwyddau gwahanol ac ni ellir rhoi unrhyw arian parod neu newid yn ei lle.
Plantasia: Gellir defnyddio’r tocynnau teulu ar gyfer 1 ymweliad â Sw Drofannol Plantasia ar ddyddiau mynediad cyffredinol (ac eithrio digwyddiadau arbennig, sydd i’w gweld ar eu gwefan: https://www.plantasiaswansea.co.uk/whats-on/Maent yn ddilys am 1 flwyddyn. Bydd y dyddiad gorffen wedi’i nodi ar y daleb.Gall 2 oedolyn a 2 blentyn, neu 1 oedolyn a 3 phlentyn, ddefnyddio tocynnau teulu. Gellir prynu unrhyw docynnau eraill y bydd eu hangen ar-lein drwy’r ddolen ganlynol: https://www.plantasiaswansea.co.uk/general-admission/
Y Royal Mint Experience: 1x Taleb Taith Dywys i deulu o 4 – yn cynnwys taith dywys i 2 oedolyn a 2 blentyn neu 1 oedolyn a 3 phlentyn.Maen nhw am gynnwys 2 ‘Strike Your Own Coins’ ar y diwrnod, hefyd!Telerau ac amodau safonol yn berthnasol – ni ellir eu cyfnewid am werth ariannol nac am nwyddau eraill yn y Bathdy Brenhinol. Y dyddiad gorffen yw 1af Tachwedd 2025 ond ni ellir eu defnyddio yn ystod eu Tymor Nadolig (23ain Tachwedd – 31ain Rhagfyr 2024), ac ni ellir eu defnyddio mewn cysylltiad ag unrhyw gynnig arall.
Y Sw Fynydd Gymreig: Pecyn ymweliad grŵp i’r Sw Fynydd Gymreig yn cynnwys 4 tocyn rhodd am ddim, yn cynnwys pryd o fwyd a diod yn eu Safari Restaurant i bob deiliad tocyn rhodd, gyda’r wobr yn werth oddeutu £100. Mae’r wobr yn ddilys i’w hawlio am flwyddyn.
ZipWorld: Taleb ar gyfer diwrnod allan yn ZipWorld. Bydd y daleb hon yn ddilys i’w hawlio am flwyddyn. Ewch i https://www.zipworld.co.uk/terms-and-conditions am ragor o wybodaeth.