Skip to main content
English
English
Llaw yn dal croen banana

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Ffeithiau difyr am ailgylchu

Ffeithiau ailgylchu am Gymru:

  • Cymru yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu;

  • Yng Nghymru, rydyn ni’n ailgylchu 65% o’n gwastraff;

  • Mae 94% ohonom yn ailgylchwyr rheolaidd yng Nghymru;

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ailgylchu 70% o’n gwastraff erbyn 2025 a bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050;

  • I ddarganfod beth sy’n digwydd i’ch ailgylchu ac i ble mae’n mynd, gallwch fynd draw i wefan Fy Ailgylchu Cymru, sy’n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol iawn.

Ailgylchu bwyd:

  • Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn helpu’n uniongyrchol gyda thaclo newid hinsawdd;

  • Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru yn anfon eu gwastraff bwyd i gyfleuster prosesu arbennig ble caiff ei droi yn ynni adnewyddadwy;

  • Yr enw ar y broses o droi gwastraff bwyd yn ynni yw “treulio anaerobig”;

  • Mae POB cyngor yng Nghymru’n cynnig gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd lleol;

  • Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn ailgylchu eu gwastraff bwyd;

  • Gall ailgylchu 79 o fagiau te gynhyrchu digon o drydan i bweru sychwr gwallt am 10 munud;

  • Gall ailgylchu 1 croen banana greu digon o ynni i wefru 2 ffôn clyfar;

  • Gall llond cadi o wastraff bwyd gynhyrchu digon o drydan i bweru oergell am 18 awr.

Ailgylchu metel a gwydr:

  • Gellir ailgylchu gwydr a metel ill dau dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio;

  • Defnyddir tua 95% yn llai o ynni i wneud eitemau gwydr a metel o ddeunyddiau eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’;

  • Mae’r eitemau gwydr a metel y gellir eu hailgylchu o’r ystafell wely a’r ystafell ymolchi’n cynnwys poteli persawr/persawr eillio, diaroglydd, chwistrell gwallt ac erosolau gel eillio;

  • Mae ailgylchu 1 can diod gwag yn arbed digon o ynni i bweru cawod am fwy na 5 munud;

  • Gall ailgylchu 1 can erosol greu digon o ynni i bweru cawod am 8 munud;

  • Mae ailgylchu 1 botel win yn atal gwerth bron i 4,000 o geir o CO2 rhag mynd i’n hatmosffer.

Ailgylchu plastig:

  • Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o eitemau plastig a geir yn y cartref;

  • Mae’r poteli plastig y gellir eu hailgylchu o’r ystafell ymolchi’n cynnwys poteli sebon dwylo, sebon corff, siampŵ a chyflyrydd gwallt, poteli swigod bath a photeli hylif glanhau plastig;

  • Mae 90% o ddinasyddion Cymru’n ailgylchu eu poteli nwyddau ymolchi plastig. Mae 92% yn ailgylchu poteli diodydd plastig;

  • Mae’n cymryd 75% yn llai o ynni i wneud potel blastig o blastig eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’;

  • Mae ailgylchu un botel hylif glanhau blastig yn arbed digon o ynni i wefru 6 iPad;

  • Mae ailgylchu un botel siampŵ/cyflyrydd gwallt yn cynhyrchu digon o ynni i ferwi 2 degell;

  • Mae ailgylchu tair potel ddŵr 500ml yn cynhyrchu digon o ynni i bweru sychwr gwallt am 10 munud.

Ailgylchu cardfwrdd a phapur:

  • Mae 92% o bobl Cymru’n ailgylchu eu cardfwrdd;

  • Mae’r cardfwrdd y gellir ei ailgylchu o’r ystafell ymolchi’n cynnwys bocsys past dannedd, bocsys nwyddau ymolchi a thiwbiau papur toiled;

  • Mae 1 tiwb papur toiled wedi’i ailgylchu’n arbed digon o ynni i wefru eich ffôn clyfar ddwywaith.

BYDD WYCH. AILGYLCHA.

Cynnwys cysylltiedig

  • Cyngor Gorau ar Ailgylchu

    Newyddion Ac Ymgyrchoedd

    Cyngor Gorau ar Ailgylchu

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon