Skip to main content
English
English
Rhes o finiau ailgylchu du gyda chaeadau o wahanol liwiau mewn canolfan siopa

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Achub dy ailgylchu o'r bin y Nadolig hwn – Meddylia cyn taflu pan fyddi di allan o amgylch y fro! Dewch inni Gael Cymru i Rif 1!

Ar y dudalen hon

Mae tymor yr ŵyl wedi cyrraedd, a dyma’r amser i fynd allan i fwynhau’r marchnadoedd Nadolig, llwybrau goleuadau, pantomeimau a digwyddiadau gŵyl y gaeaf ledled Cymru. Ond tra byddi allan yn mwynhau hwyl yr ŵyl, cofia bod un arferiad bach sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i Gymru a'r blaned.

Meddylia cyn taflu pan fyddi di allan o amgylch y fro!

Mae Cymru eisoes yn ail genedl orau’r byd am ailgylchu – ac os bydd pawb yn chwarae eu rhan, fe allwn ni gyrraedd y brig. Diolch i'r gyfraith ailgylchu yn y gweithle newydd a gafodd ei chyflwyno yn Ebrill 2024, mae'n haws nag erioed ailgylchu pan fyddi di oddi cartref. Mae'r cynnydd hyd yn hyn yn dangos pa mor bwysig yw dy ddewisiadau di. Felly wrth iti grwydro o un digwyddiad Nadoligaidd i'r llall, cymera eiliad i ailgylchu'n iawn. Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru’n gwneud hyn yn barod, ac mae'n talu ar ei ganfed. Mae bron iawn yr holl ailgylchu sy’n cael ei roi yn y bin cywir yn aros yn y Deyrnas Unedig – mae 57% yn cael ei brosesu yng Nghymru a 35% arall mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Mae dy arferion da yn cefnogi swyddi lleol, yn cryfhau diwydiannau Cymru, ac yn gwarchod adnoddau gwerthfawr.

Ystadegau ar gyrchfan deunyddiau wedi'u hailgylchu wedi'u gosod dros fapiau

A dydi’r effaith ddim yn stopio yn fanno: Mae ailgylchu metel neu wydr yn defnyddio 95% yn llai o ynni na'u gwneud o ddeunyddiau crai. Gall ailgylchu dim ond dau gan diod bweru set DJ am awr – gallai dy ganiau gwag helpu i gadw'r gerddoriaeth Nadolig i fynd. Mae gwastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy sy'n pweru cartrefi ledled Cymru. Mae un llond cadi’n creu digon o ynni i bweru teledu am ddwy awr – dyna’r noson ffilm Dolig wedi’i sortio.

Golwg gefn ar deulu sy'n cynnwys dau riant a dau o blant yn eistedd ar soffa yn gwylio'r teledu.

Gwirio’n gyflym = buddugoliaeth Nadoligaidd i Gymru!

Mynd allan i ddilyn llwybr goleuadau Nadolig, i ffair aeaf neu atyniad teuluol Nadoligaidd? Mae biniau ailgylchu ar y safle gan lawer o'r lleoedd hyn bellach. Felly p’un ai gaead gwag dy gwpan siocled poeth, potel ddiod, neu groen tanjerîn fydd gen ti i’w daflu, gwna’n siŵr eu bod nhw'n cyrraedd y bin cywir. Cyn iti roi unrhyw beth yn y bin, edrycha ar yr arwyddion iti gael gwybod beth sy'n perthyn i ba fin. Fel arfer, fe weli di finiau ar gyfer poteli plastig, caniau diodydd a chartonau, gwydr, bwyd, papur/cardbord, gwastraff cyffredinol.

Tri bin ailgylchu o wahanol liwiau o flaen addurniadau Nadolig a chastell

Mae'n hawdd gwneud camgymeriad pan mae gen ti lond dy ddwylo o fagiau, menig a danteithion Nadoligaidd – ond gall un eitem yn y lle anghywir halogi swp cyfan o ailgylchu. Mae pob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir yn cael ail fywyd – gan arbed adnoddau, lleihau gwastraff a'n helpu ni i symud yn agosach at gyrraedd Rhif 1 yn y byd am ailgylchu.

Diwrnodau allan gwyrddach dros y Dolig

Mae pob eitem rwyt ti’n ei hailgylchu'r dros y Dolig yn gwneud gwahaniaeth. Gellir troi gwastraff bwyd yn ynni. Mae poteli a chaniau yn cael bywyd newydd. Mae pob eitem sy'n cael ei binio'n gywir yn helpu i leihau gwastraff, arbed adnoddau, ac yn mynd â ni un cam yn nes at y brig. Felly lle bynnag y mae'r Nadolig yn mynd â thi – o farchnadoedd i fynyddoedd, o gyngherddau i gestyll – meddylia cyn taflu, a dewisa’r bin cywir. Dim ond eiliad y mae'n ei gymryd, ond gyda'n gilydd, gallwn wneud Cymru'n ailgylchwr gorau’r byd. Amdani!

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon