Mae tymor yr Ŵyl yn ei anterth – mwy o brydau bwyd, mwy o ddanteithion… a mwy o wario. Ac er ein bod ni i gyd wrth ein boddau gydag ychydig o wledda Nadoligaidd, does neb eisiau taflu arian (na bwyd) gwerthfawr i’r bin. Yng Nghymru, mae aelwyd gyffredin o bedwar person yn taflu gwerth tua £84 o fwyd bob mis – a gyda gwleddoedd, danteithion a bwyd dros ben ychwanegol dros y Nadolig, gall y ffigur hwnnw godi hyd yn oed yn uwch. Ond gydag ambell dric syml, fe alli di leihau gwastraff, ymestyn dy fwyd Nadoligaidd ymhellach, arbed arian, a hyd yn oed helpu i bweru cartrefi ledled Cymru. Mae pawb ar eu hennill dros yr Ŵyl!
Cynllunio fel un o’r Doethion dros yr ŵyl (gan arbed £££ ar yr un pryd)
Mae'n swnio'n syml, ond mae'n newid y gêm yn ystod dryswch y Dolig: Gwna restr a chadw ati hi.
Cyn i’r pethau ychwanegol “jyst rhag ofn” a’r pryniannau byrbwyll gyrraedd y troli, cymera ychydig funudau i gynllunio dy brydau bwyd ar gyfer y diwrnod mawr a’r cyfnod Nadoligaidd yn gyffredinol.
Mae'r ateb yn syml: Mae ychydig o baratoi yn mynd yn bell:
Cynllunia dy brydau Nadolig – meddylia pwy sy'n dod, pryd, a faint o foliau sydd i’w llenwi.
‘Siopa’ yn dy gypyrddau ac oergell yn gyntaf cyn mynd i’r siop – efallai bod gen ti lysiau, perlysiau neu gynhwysion eraill yno nad oeddet ti’n cofio amdanyn nhw.
Dewisa brydau bwyd gyda chynhwysion sy'n gorgyffwrdd – mae prynu llai o eitemau yn golygu llai o wastraff a llai o wario.
Siopa'n graff yn y siopau – pryna ffrwythau a llysiau rhydd fel mai dim ond am yr hyn sydd ei angen arnat ti y byddi’n talu, a bydd yn bwyllog gyda bargeinion pecynnau mawr. Dydyn nhw ddim ond yn fargen os byddi'n eu defnyddio nhw i gyd.
Dilyna’r awgrymiadau syml hyn i wastraffu llai, arbed arian, a chadw mwy o arian yn ôl ar gyfer hwyl yr Ŵyl!

Coginio’n graff i wneud i dy fwyd Nadoligaidd fynd ymhellach
P'un a wyt ti’n defnyddio'r hyn sydd eisoes yn yr oergell neu'n bod yn greadigol gyda bwyd dros ben, mae coginio'n graff yn helpu dy fwyd fynd ymhellach – gan arbed amser, arbed arian a lleihau gwastraff. Ac mae’n bwysig: bwyd yw chwarter yr hyn sydd yn y bin sbwriel arferol yng Nghymru, a gellid bod wedi bwyta’r rhan fwyaf ohono fe.
Cyn iti ddechrau paratoi, edrycha’n gyflym ar yr hyn sydd gen ti eisoes a gwna iddo weithio iti. Gall y pethau bach hynny fod yn union yr hyn sydd ei angen arnat ti i roi hwb i bryd o fwyd:
Taflu unrhyw lysiau dros ben i mewn i gawl cynnes, cyri dros ben neu datws a bresych stwnsh.
Taflu tameidiau caws ar datws stwnsh, brecwast poeth neu ar dost.
Rhoi twrci, rhost cnau neu lysiau mewn bara tortila, cyri neu salad gaeaf blasus.
Rhewi unrhyw beth na fyddi’n ei ddefnyddio – mi fyddi di’n falch ohono rywdro eto.

Ailgylcha’r hyn na ellir ei fwyta – a helpu i bweru Cymru
Mae unrhyw fwyd na ellir ei fwyta yn perthyn i'r cadi gwastraff bwyd. O grwyn tanjerîns a choesynnau llysiau i esgyrn twrci, plisg cnau a bagiau te, mae'r cyfan yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy i helpu i bweru cartrefi ledled Cymru. Gall dim ond un llond cadi gynhyrchu digon o ynni i gadw llinyn o oleuadau Nadolig yn tywynnu am ddau ddiwrnod cyfan.
Ar hyn o bryd, mae Cymru’n 2il yn y byd am ailgylchu – ond y Nadolig hwn, gadewch i ni anelu am yr aur.
Ailgylcha dy holl wastraff bwyd a helpu i roi Cymru ar frig y goeden!

Arferion Nadoligaidd sy'n gwneud gwahaniaeth mawr
Y Nadolig hwn, gall ychydig o newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr. Drwy gynllunio ymlaen llaw, coginio'n glyfar, defnyddio'r hyn rwyt ti’n ei brynu ac ailgylchu'r hyn na ellir ei fwyta, fe wnei di arbed arian, lleihau gwastraff a helpu i greu ynni glân ar gyfer cymunedau ledled Cymru. Gyda'n gilydd, gallwn gadw bwyd allan o'r bin a helpu i roi hwb i Gymru i Rif 1 yn y byd am ailgylchu.



