Skip to main content
English
English
Cragen wy wedi cracio gyda physt rygbi wedi'u tynnu â sialc a choed ar gefndir coch gyda'r slogan "Troi gwastraff bwyd yn bwer I Gymru. Bydd wych. Ailgylcha fe."

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Pweru’r Chwe Gwlad – Gwledda, lleihau gwastraff a helpu Cymru gyrraedd Rhif 1!

Sut bynnag bydd Cymru yn perfformio yn y Chwe Gwlad eleni, o ran ailgylchu, rydyn ni eisoes ar y brig! Rydyn ni'n 2il yn y byd, ar ôl dringo i fyny o'r 3ydd safle ond rydyn ni eisiau'r safle cyntaf!

Achub bwyd rhag y bin sbwriel yw'r cam cryfaf i'n helpu ni gyrraedd yno. Mae’n ddychrynllyd meddwl fod chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog yn fwyd, a gellid bod wedi bwyta mwy nag 80% ohono. Mae hynny'n swm syfrdanol o £84 y mis yn cael ei wastraffu fesul cartref – arian a phrydau bwyd yn mynd yn syth yn y bin!

Pweru’r Chwe Gwlad gyda gwleddoedd diwastraff penigamp

P'un a wyt ti’n llenwi dy fol cyn y gic gyntaf, yn cael tamaid hanner amser, neu'n dathlu buddugoliaeth, bydd y seigiau cyflym, hawdd a blasus hyn yn dy helpu i achub bwyd rhag y bin a sicrhau profiad penigamp i ti wrth fwynhau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad!

  • Cyri cyw iâr 'hanner a hanner' – Y wledd hanner amser ddelfrydol! Taflah gyw iâr a llysiau dros ben i dy hoff saws cyri a’i weini gyda sglodion cartref â'r croen arnynt a reis – 'hanner a hanner', clasur o gyfuniad Cymreig!

  • Tosti caws epig – Un o hanfodion gêm rygbi! Galli ddyrchafu dy dosti drwy ychwanegu ham dros ben, sbigoglys, neu domatos wedi'u sleisio i wneud byrbryd buddugol.

  • Ysgytlaeth adferol – Ar gyfer bore drannoeth! Blendia ffrwythau, llaeth a hyd yn oed iogwrt dros ben i gael hwb egni adfywiol cyn mynd yn ôl at y gemau nesaf.

Ailgylchu’r hyn na alli ei fwyta – a phweru'r Chwe Gwlad!

Wrth baratoi dy wleddoedd ar ddyddiau gêm, paid â gadael i'r darnau anfwytadwy fynd yn wastraff – ailgylcha’r esgyrn, y plisg wyau a'r plicion anfwytadwy hynny i helpu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy!

Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni glân, gwyrdd trwy dreulio anaerobig, gan bweru cartrefi, cymunedau… a hyd yn oed y Chwe Gwlad:

  • Pweru dy teledu gartref – Un cadi yn llawn gwastraff bwyd = 2 awr o drydan – digon i wylio dau hanner y gêm, yn ogystal â’r sgwrs ar ôl y gêm!

  • Goleuo Stadiwm y Principality – mae bananas yn pweru’r chwaraewyr, a gall crwyn banana bweru’r gêm! Pe bai pawb yng Nghymru yn ailgylchu dim ond un croen banana, gallem gadw llifoleuadau’r stadiwm wedi’u pweru am 10 diwrnod cyfan.

  • Cadw dy ddiodydd yn oer – Gall un cadi gwastraff bwyd bweru oergell am 18 awr – digon o amser i oeri dy gwrw ar gyfer y gêm fawr!

Mae gan dy wastraff bwyd bŵer – defnyddia fe!

Mae pob pryd sy'n cael ei achub a phob tamaid o fwyd sy'n cael ei ailgylchu yn dod â Chymru'n agosach at fod yn Rif 1 am ailgylchu! Achuba dy fwyd o'r bin trwy greu prydau blasus ar ddiwrnod y gêm ac ailgylchu'r hyn na alli di ei fwyta i helpu i bweru cartrefi, cymunedau… a’r gêm ei hun.

Dysga fwy am ailgylchu gwastraff bwyd a chwarae dy ran dros Gymru

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon