Gyda’r gwanwyn ar y gorwel, mae llawer ohonom yn agor ein ffenestri, yn sbriwsio’r tŷ ac yn ryw gael trefn gyffredinol ar ein cartrefi. Wrth i fwy o gynnyrch ffres ddod i’w dymor, efallai bydd ein hymdrechion sbriwsio yn cynnwys newid ein harferion bwyd wrth inni godi allan o dymor y stiwiau a chawl cynhesol. Felly, dyma’r amser delfrydol i edrych ar beth sydd yn yr oergell, y rhewgell a’r cypyrddau, a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw beth yn cael ei wastraffu! Yn yr erthygl hon, byddwn yn edrych ar rai o’r pethau y gallwch eu gwneud i wastraffu llai o fwyd, arbed mwy o arian, a gwarchod y blaned!
Ni yw ail genedl orau’r byd am ailgylchu – dewch inni wneud yn siŵr bod hynny’n cynnwys bwyd!
Yma yng Nghymru, rydyn ni’n ymfalchïo cymaint mewn ailgylchu, rydyn ni’n ail genedl ailgylchu orau’r byd! Ond mae lle i wella o hyd, ac mae ein hymchwil yn dangos bod gwastraff bwyd yn un maes lle gallwn wneud yn well fyth.Mae ein harolwg yn dangos bod 90% o drigolion Cymru’n credu y dylid gwerthfawrogi bwyd, ac na ddylid fyth ei daflu i’r bin sbwriel.Yn hytrach, maen nhw’n credu y dylem geisio defnyddio’r holl fwyd sydd gennym ac ailgylchu’r hyn na ellir ei fwyta.
Er gwaethaf y bwriadau da hyn, fodd bynnag, bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog o hyd – mae hyn yn gymaint o fwyd, pe byddech yn ei roi i gyd yn yr un lle, fe allech chi lenwi 3,300 o fysiau deulawr gydag ef.I’w fynegi mewn ffordd arall, mae hynny’n 110,000 o dunelli’r flwyddyn.Ac mae cost yn perthyn i hyn: gellid bod wedi bwyta mwy nag 80% o’r bwyd hwnnw a daflwyd i’r bin – ac mae hyn yn costio £49 y mis, neu bron i £600 y flwyddyn, i’r teulu arferol. ’Rargian!
Yn nes ymlaen, fe wnawn ni drafod beth sy’n digwydd pan fyddwch yn ailgylchu’r gwastraff bwyd na allwch ei fwyta, ond yn gyntaf, gadewch inni ddechrau gydag ambell ffordd hawdd o fanteisio i’r eithaf ar eich bwyd.
Sut i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach
Mae achub bwyd rhag y bin yn golygu arbed arian yn ogystal â lleihau gwastraff bwyd, felly rydyn ni’n ennill bob ffordd.Gyda chymaint o rysetiau sydyn, hawdd, a rhad i ddefnyddio’r bwyd sydd gennych yn yr oergell, y rhewgell a’r cypyrddau, does dim rheswm i beidio bod yn greadigol yn y gegin!Dyma rai syniadau ichi gael dechrau arni’r gwanwyn hwn:
Defnyddiwch datws a llysiau wedi’u torri mewn stiw neu gyri un pot.
Rhowch ffrwythau mewn crempog neu smwddi
Blendiwch lysiau sydd angen eu defnyddio mewn cawl
Gallwch drawsnewid pennau bara i wneud pizza gyda’r rysáit hawdd hon y bydd y plant yn dwli arni
Rhowch fywyd newydd i’ch danteithion Pasg gyda’r syniadau blasus hyn
Blas ar eich bwyd dros ben – wedi gwneud gormod? Cadwch beth at ginio’r diwrnod wedyn, neu gallech rewi dogn ar gyfer diwrnod arall
Rhewi mwy – gallwch rewi’r rhan fwyaf o fwydydd – hyd yn oed llaeth! Mae rhewi fel stopio amser ar eich bwyd, felly rhowch ef yn y rhewgell a gallwch ei fwyta rywdro eto
Am wledd o ysbrydoliaeth rysetiau ar gyfer unrhyw gynhwysion sydd gennych, ewch i’n tudalen Bydd Wych. Ailgylchaac ewch draw i’n chwaer wefan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff am ragor o tips gwych ar sut i wneud i’ch bwyd fynd ymhellach.
Felly, beth ddylech chi ei wneud gyda’r bwyd na allwch ei fwyta – y coesynnau llysiau, yr esgyrn a’r plisg wyau sydd dros ben ar ôl ichi goginio pryd o fwyd?Wel, dyma ichi neges syml i’w chofio’r gwanwyn hwn a thu hwnt:
Os na alli di ei fwyta fe, ailgylcha fe!
Ydych chi’n cofio am y 110,000 o dunelli o fwyd a gaiff ei daflu i’r bin y gwnaethom sôn amdano’n gynharach?Wel, mae hynny’n cynnwys mwy nag 20,000 o dunelli o wastraff bwyd na fyddech eisiau ei fwyta, fel crwyn bananas neu esgyrn, a gellid bod wedi’u troi yn ynni adnewyddadwy i bweru ein cartrefi!
Ie, dyna sy’n digwydd i wastraff bwyd pan gaiff ei ailgylchu yma yng Nghymru, ac mae’n ffynhonnell ynni wych.Byddai dim ond pedwar o grwyn bananas yn creu digon o ynni i wefru llechen ddigidol, a byddai 16 ohonynt yn creu digon i wylio gêm rygbi 6 Gwlad gyfan ar y teledu y gwanwyn hwn.Byddai ailgylchu un llond cadi o wastraff bwyd yn creu digon o ynni i bweru cartref am awr, neu oergell am 18 awr, a byddai hynny’n cadw eich holl brydau bwyd wedi’u paratoi’n ffres tan y diwrnod wedyn!
Felly, sut allwch chi wneud yn siŵr bod eich bagiau te, plisg wyau gwag, ac esgyrn eich cyw iâr rhost yn cael eu troi’n ynni adnewyddadwy?Mae’n syml: rhowch fwyd anfwytadwy yn eich cadi gwastraff bwyd i’w ailgylchu bob amser.Hyd yn oed os yw e wedi llwydo! Gallwch gadw eich cadi’n ffres a glân drwy ei lanhau’n rheolaidd, ei wagio cyn iddo fynd yn rhy llawn, a defnyddio bag leinio. Os nad oes cadi bwyd gennych eto, gallwch gael un.
Yma yng Nghymru, mae bron i 80% ohonom eisoes yn ailgylchu ein gwastraff bwyd oherwydd rydym am chwarae ein rhan dros Gymru.Cofiwch, mae’r pŵer yn eich dwylo!