Skip to main content
English
English
An array of summer garments including linen shirts and straw hat, hanging up on a wardrobe rail.

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Canllaw Cymru yn Ailgylchu i wardrob haf sy’n gyfeillgar i’r blaned

Ar y dudalen hon

Popeth sydd angen i chi ei wybod i greu eich cwpwrdd dillad cynaliadwy perffaith.

Gyda'r haf ar y gorwel ac efallai hyd yn oed rhai gwyliau yn y calendr, mae llawer ohonom yn troi ein meddyliau at yr hyn y byddwn yn ei wisgo pan fydd yr haul yn penderfynu dangos ei wyneb o’r diwedd. Mae'n amser pan fydd ein mewnflychau a'n ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu peledu â ffasiwn gyflym a'r darnau diweddaraf y ‘mae’n rhaid eu cael’ ar gyfer ein cypyrddau dillad yr haf.

Ond gan fod y diwydiant tecstilau a dillad yn un o’r rhai sy’n llygru fwyaf, a Chymru’n anelu at ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050, nawr yw’r amser i wneud dewisiadau ffasiwn sy’n gyfeillgar i’r blaned a fydd hefyd yn arbed rhywfaint o arian gwario ar eich gwyliau! Dyma sut…

Edrychwch ar yr hyn sydd gennych yn barod

Mae ymchwil WRAP yn dangos bod bron i ddau o bob pump (39%) ohonom yn dweud bod ein cypyrddau dillad yn anhrefnus, gan ei gwneud hi'n anodd gwybod beth sydd yna. Mae wardrob anhrefnus yn fwy tebygol ymhlith unigolion sydd rhwng 18 a 34 oed (46%) ac, fel y bydd unrhyw riant yn dweud, ymhlith y rhai ohonom sydd â phlant (43%)! Felly beth am ddefnyddio'r haf sydd ar y gorwel fel esgus i dacluso ychydig ar eich wardrob?

Efallai y byddwch chi'n dod o hyd i ddarnau yr oeddech chi wedi anghofio amdanynt yn llwyr a bydd hynny llawn cystal â phrynu rhywbeth newydd. Mae hefyd yn gyfle gwych i fod yn greadigol a cheisio cyfuno gwahanol ddarnau i greu gwisgoedd newydd.

Dewiswch ddillad ail law ar gyfer gwisg newydd ar gyfer yr haf

Os yw'ch cwpwrdd dillad wir yn gofyn am ddillad newydd boed ar gyfer eich gwyliau neu ŵyl gerddoriaeth, dillad ail law yw’r ffordd i fynd – ac mae'n dal yn newydd i chi! P'un a ydych chi'n mynd i'ch siop elusen agosaf neu'n lawr lwytho ap megis Vinted neu Preloved, efallai'n wir y byddwch chi'n cael eich syfrdanu gan y trysorau ail-law rydych chi'n eu darganfod wrth arbed arian a diogelu'r blaned.

Mae ychydig dros hanner (54%) o drigolion y DU yn dweud eu bod yn fodlon prynu dillad ail law neu hen ddillad, felly nid yw'n syndod ein bod hefyd yn gweld mwy a mwy o siopau poblogaidd yn ymddangos ar ein strydoedd mawr. Mae hynny'n golygu, os ydych chi'n mwynhau mynd o amgylch y siopau yn fwy na phrynu ar-lein, gallwch chi barhau i fwynhau sbri siopa ail-law. Edrychwch ar Ganol Dinas Caerdydd, er enghraifft – mae ei siopau dillad ail law, fel Beyond Retro a’r Safe Foundation, yn llawn dop o ddarnau unigryw.

Os oes rhaid i chi brynu dillad newydd, dewiswch frandiau ecogyfeillgar a chofiwch bwyllo wrth brynu

Mae ymchwil WRAP yn dangos bod bron i’n hanner (45%) ni yn y DU yn prynu dillad o leiaf unwaith y mis, a bod tua un o bob wyth (13%) ohonom yn prynu dillad newydd bob wythnos. Mae hefyd yn fwy tebygol i oedolion ifanc (81% o bobl 18-24 oed brynu dillad o leiaf unwaith y mis) a chydag incwm cartref yn codi.

Un ffordd o leihau effaith amgylcheddol yr arfer hwn yw dewis ble a sut i fuddsoddi mewn dillad newydd. Dewiswch frandiau ecogyfeillgar a meddyliwch am ‘ffasiwn araf, gan brynu gan gwmnïau sydd o ddifrif am leihau eu heffaith ar y blaned a dewis darnau bythol na fydd yn mynd allan o steil mewn chwe mis.

Rhentu gwisg ar gyfer achlysur

Mae'r haf yn adeg o'r flwyddyn pan mae'n fwy tebygol y bydd gwahoddiad un-tro yn unig yn glanio ar eich stepen drws, gyda thymor priodasau â'r potensial i greu'r angen am wisg newydd. Dywed tua un o bob pedwar (23%) eu bod yn prynu dillad yn rheolaidd gyda’r bwriad o’u defnyddio am gyfnod byr. Yn hytrach na phrynu gwisg y byddwch yn ei gwisgo unwaith neu ddwy yn unig, beth am rentu yn lle hynny? Mae'r nifer cynyddol o wasanaethau rhentu dillad hefyd yn ffordd wych o fwynhau gwisgo dillad dylunwyr am lai o arian.

Cynnal, atgyweirio, rhoi gwedd newydd i eitemau o ddillad

Gallwch osgoi'r angen i brynu dillad newydd trwy gadw'ch rhai presennol mewn cyflwr da ac yn ddefnyddiadwy cyhyd â phosib. Bydd cynnal a chadw eich dillad trwy ddilyn y cyfarwyddiadau gofal yn ymestyn eu bywyd, ac mae bron i dri o bob pump ohonom yn y DU (59%) eisoes yn mynd i lawer o ymdrech i gynnal a chadw ein dillad. Yn yr un modd, bydd atgyweirio eitemau sydd wedi'u difrodi yn rhoi bywyd newydd iddynt – rhowch gynnig ar Caffi Trwsio Cymru pan fo'r angen yn codi, neu efallai hyd yn oed ddysgu sgil newydd trwy diwtorialau YouTube!

Yn olaf, mae uwchgylchu – sef rhoi gwedd newydd i ddillad – yn ffordd wych o ychwanegu tro unigryw i’ch dillad pan fyddwch chi'n teimlo bod angen adnewyddu eich cwpwrdd dillad. Gallai hyn fod mor syml ag ychwanegu botymau lliw gwahanol neu ddefnyddio darnau o ddefnydd y gellir eu smwddio ar eich dillad neu os ydych chi wir eisiau bod yn greadigol a dysgu rhywbeth newydd, gallwch hyd yn oed roi cynnig ar gwrs gwnïo a rhoi gwedd newydd i hen eitem o ddillad fel eich prosiect gwnïo.

Mae’r diwydiant ffasiwn yn gyfrifol am swm enfawr o allyriadau CO2 niweidiol, ond gallwn oll wneud ein rhan i leihau hynny. Yma yng Nghymru rydym eisoes yn un o'r goreuon yn y byd o ran ailgylchu, ac rydym wedi gosod nod uchelgeisiol i'n hunain o ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 (neu'n gynt) i helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Ni fyddwn yn cyflawni'r nod hwnnw heb wneud dewisiadau ffasiwn sy'n ymwybodol o'r blaned, ond pan fo'r ffordd ymlaen yr un mor hwyliog a didrafferth â'r awgrymiadau yr ydym wedi'u hamlinellu yma, rydym yn credu na ddylai hynny fod yn ormod o waith caled!

Cynnwys cysylltiedig

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon