
Ailgylchu gwastraff bwyd i greu pŵer
Cymru yw ail genedl orau’r byd am ailgylchu, ac mae mwy a mwy o ddinasyddion Cymru’n ailgylchu eu gwastraff bwyd i greu pŵer. Pan fo’ch gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu, caiff ei droi’n drydan i helpu i bweru cartrefi a chymunedau ledled Cymru. Cewch roi unrhyw fwyd amrwd neu wedi’i goginio yn cynnwys crwyn ffrwythau a llysiau, bagiau te, gwaddodion coffi, plisg wyau, crafion oddi ar eich plât, a bwyd wedi mynd heibio’i ddyddiad yn eich cadi gwastraff bwyd.

Sut mae gwastraff bwyd yn creu trydan
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau lleol yng Nghymru’n anfon eu gwastraff bwyd i gyfleuster Treulio Anaerobig, proses sy’n defnyddio micro-organebau o’r enw ‘methanogenau’ i dorri gwastraff bwyd i lawr mewn tanc caeedig, ynghyd â thail anifeiliaid fferm a chnydau ynni. Wrth iddo dorri i lawr, mae’n creu bio-nwy, sy’n cael ei gasglu a’i ddefnyddio i gynhyrchu ynni gwyrdd a all bweru cartrefi a chymunedau ledled Cymru.

Pweru eich teledu
Mae’r rhan fwyaf o bobl Cymru’n ailgylchu eu hesgyrn cig a physgod, eu crwyn ffrwythau a llysiau, bagiau te, plisg wyau a chrafion oddi ar y plât. Gall un llond cadi o wastraff bwyd gynhyrchu ynni i bweru set deledu am ddwy awr.

Pweru eich cartref
Mae eich gwastraff bwyd wedi’i ailgylchu’n mynd yn ôl i’r gymuned ar ffurf ynni adnewyddadwy. Mae ailgylchu 32 o grwyn banana’n creu digon o ynni i bweru cartref cyffredin am awr.

Pweru eich ffôn clyfar
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn mwynhau disgled o de, boed yn seibiant yn ystod y diwrnod gwaith neu’n gyfle i ddal i fyny gyda ffrindiau. Gall ailgylchu dim ond dau fag te greu digon o drydan i wefru ffôn clyfar yn llawn.

Sut i ddechrau arni
Mae pob cyngor lleol yng Nghymru’n darparu casgliad ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol cyfleus. Y cwbl y mae ei angen arnoch i ddechrau arni yw cadi gwastraff bwyd a rholyn o leininau.