Mae Cymru eisoes yn ail yn y byd am ailgylchu – ond rydyn ni’n anelu’n uwch fyth. Mae'r Pasg yn amser delfrydol i adnewyddu dy arferion ailgylchu a gwneud gwahaniaeth go iawn. Gyda'r holl ddeunydd pacio, y bwyd a’r amser ychwanegol a dreuliwn yn yr awyr agored, gall ychydig o newidiadau bach fynd yn bell.
P’un a fyddi di’n mwynhau cinio rhost, yn dadlapio danteithion siocled, yn sbriwsio’r ardd, neu’n mynd allan i’r awyr iach, dyma bum ffordd hawdd i gadw bywyd yn wyrdd y Pasg hwn.
1. Rho ail fywyd i dy ffoil

Y ffoil sy’n lapio dy wy siocled neu'r ffoil sy'n gorchuddio cinio rhost y Pasg? Mae'n 100% ailgylchadwy a gellir ei ailgylchu dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio. Cofia wneud yn siŵr bod y ffoil yn lân a heb fwyd arno, yna ei wasgu’n belen dynn cyn ei roi gyda dy ailgylchu.
2. Bydd yn graff gyda phapur a cherdyn

Mae wyau Pasg yn aml yn dod mewn pecynnau lliwgar, ac mae cardiau yn draddodiad tymhorol hyfryd – ond cofia bod modd eu hailgylchu fel arfer. Tynna unrhyw bethau ychwanegol na ellir eu hailgylchu fel llwch llachar, rhubanau neu fathodynnau yn gyntaf. Ac os wyt ti’n teimlo'n greadigol, mae hen gardiau'n gwneud deunyddiau gwych ar gyfer crefftau plant neu dagiau anrhegion.
3. Achuba dy fwyd (ac arian) rhag y bin

O fyns y Grog i ginio rhost dydd Sul, mae'r Pasg yn golygu digonedd o fwyd. Er mwyn lleihau gwastraff, cynllunia dy brydau bwyd, prynu’r hyn sydd ei angen yn unig, a manteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd gennyt eisoes. Am ffyrdd syml, blasus o ddefnyddio bwyd dros ben, dos i fwrw golwg ar y syniadau ryseitiau yn gan Joanna Page a Flamebaster.
A chofia – dylai unrhyw beth na alli di ei fwyta, fel esgyrn, crwyn neu blisgyn wyau, fynd i’r cadi bwyd. Yng Nghymru, caiff gwastraff bwyd ei droi’n ynni adnewyddadwy. A dweud y gwir, gall dim ond un cadi llawn bweru cartref cyffredin am bron i awr. Anhygoel!
4. Taclusa'r ardd y ffordd werdd
Mae’r gwanwyn yn amser perffaith i gael yr ardd ar ei gorau – boed hynny’n golygu torri’r lawnt, tocio’r gwrychoedd neu daclo’r chwyn o’r diwedd. Ond paid â gadael i'r holl wyrddni hwnnw fynd yn wastraff. Mae’r rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru yn cynnig casgliad gwastraff gardd, gan droi’r torion glaswellt, tocion canghennau a dail yn gompost. Mae’r compost hwn yn helpu ffermwyr dyfu bwyd yn naturiol, gan osgoi gwrteithiau artiffisial, ac fe’i defnyddir hefyd i gynnal a chadw parciau a gerddi cyhoeddus.
Edrycha ar wefan dy gyngor lleol am fanylion casgliadau gwastraff gardd, a rho ail fywyd i dy docion!
5. Ailgylcha pan fyddi di allan o gwmpas y fro

Mae'r Pasg yn amser gwych i fynd allan – p'un a byddi di’n ymweld ag atyniadau, yn crwydro parciau neu'n mwynhau gwyliau’n lleol. Diolch i ddeddf ailgylchu newydd a gyflwynwyd y llynedd, mae holl weithleoedd, atyniadau a digwyddiadau yng Nghymru nawr yn darparu biniau ailgylchu ar gyfer bwyd, plastig, gwydr, papur a cherdyn. Cofia wneud yn siŵr dy fod yn rhoi’r eitemau iawn yn y biniau iawn er mwyn manteisio i’r eithaf arnyn nhw.
Mae'n ffordd hawdd o helpu i gadw Cymru'n hardd a chefnogi ein nod o fod yn genedl ailgylchu orau’r byd. Hoffet ti wybod mwy am y ddeddf ailgylchu newydd? Dysga amdani yma!
Mae pob arferiad bach yn ein helpu i ddod yn nes at y brig.
Does dim rhaid i ailgylchu mwy dros y Pasg olygu gwneud newid mawr – dim ond gwneud newid ymwybodol. Mae camau bach yn creu rhywbeth mawr pan fyddwn ni oll yn cymryd rhan. Gadewch i ni barhau i wneud ein rhan dros Gymru, dros y blaned, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.