Mae Joanna Page wedi dychwelyd i’r Barri – ond y tro hwn, mae hi ar genhadaeth i helpu teuluoedd ledled Cymru arbed arian, lleihau gwastraff a gwthio Cymru i'r brig yn fyd-eang gydag ailgylchu.
Fel rhan o'r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. – ymgyrch cenedlaethol i helpu pobl arbed amser, arian a lleihau gwastraff – ymunodd â’r cogydd enwog Chris “Flamebaster” Roberts yng Nghaffi Bay 5 ar lan môr Ynys y Barri i ddangos sut y gall teuluoedd prysur greu prydau iach, diffwdan gyda chynhwysion sydd yn aml mewn perygl o fynd i wastraff.
Cost binio bwyd
Datgelodd ymchwil newydd gan Cymru yn Ailgylchu fod teuluoedd yng Nghymru yn gwastraffu mwy o fwyd nag unrhyw grŵp arall, yn bennaf oherwydd eu hamserlenni prysur, gyda bron i draean o deuluoedd sydd â phlant yn y cartref yn perthyn i'r categori 'gwastraffwyr bwyd uchel'. Ac er bod 82% o deuluoedd yn poeni am gost bwyd, mae’r cartref cyfartalog o bedwar person yn dal i wastraffu gwerth £84 o fwyd bob mis.
Bwydlen lysh i wneud i'ch bwyd (ac arian) fynd ymhellach
Gan gydnabod yr anawsterau o gydbwyso amser bwyd gyda bywyd teuluol prysur, mae Joanna a Chris – sydd ill dau’n rhieni i bedwar o blant yr un – wedi datblygu amrywiaeth o ryseitiau syml, hyblyg a chyfeillgar i deuluoedd sy'n gwneud y gorau o'r hyn sydd eisoes yn eich oergell – gan helpu teuluoedd i arbed amser, arian, a diogelu’r blaned.
Omled Gwych o Gefn yr Oergell
Mewn cydnabyddiaeth i rôl eiconig Joanna, dyma omled sy’n gwneud pryd bwyd cyflym yn llawn daioni maethlon.
Yn cynnwys sbigoglys, madarch, caws a winwns dros ben, mae'n bryd gwych i'r bwytawyr mwyaf ffyslyd hyd yn oed. Y peth gwych am omled yw bod modd ychwanegu beth bynnag sy'n llechu yng nghefn yr oergell, felly mae’n ffordd wych o ddefnyddio cynhwysion cyn iddyn nhw gyrraedd y bin.
Meddai Chris:
“Mae omled yn ffordd wych o dynnu unrhyw fwyd dros ben at ei gilydd. Jyst ffrio’r llysia, chwysu nhw lawr, wedyn rhoi’r wyau yn y badell."
Ychwanegodd Joanna:
“Fe allech chi jyst cael y plant adref o’r ysgol a mynd ati i wneud omled lysh yn syth.”
Cyri cyw iâr dros ben “hanner a hanner”
Dyma bryd ar ôl ysgol cynhesol, sy’n manteisio i’r eithaf ar rai o’r bwydydd sy’n cael eu gwastraffu fwyaf yng Nghymru – cyw iâr, moron, a thatws. Yn barod mewn dim ond 20 munud, mae'n rysáit syml y gellir ei haddasu a gellir hefyd ei storio a'i mwynhau yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Mae fersiwn y pâr hwn yn cynnwys winwns, blodfresych, moron, a chyw iâr rhost dros ben, ynghyd â sbeisys a llaeth cnau coco, ond gellid ychwanegu unrhyw gig neu lysiau at y pryd amlbwrpas hwn.
Wedi’i weini yn y dull Cymreig clasurol – hanner reis, hanner sglodion (gyda’r croen ymlaen, wrth gwrs!) – mae'n sicr o gadw pawb yn hapus. “Sglodion a reis, yn bendant, dyna sut rydw i'n ei hoffi!” meddai Joanna.
Pwdin iogwrt Ynys y Barri
Am drît melys a syml, mae’r wedd ddiffwdan, faethlon hon ar bwdin iogwrt yn berffaith ar gyfer defnyddio ffrwythau goraeddfed ac mae’n sicr o fod yn boblogaidd gyda’r teulu cyfan.
Mae fersiwn Chris yn cynnwys aeron, melon, cnau, granola a diferyn o fêl, ond byddai unrhyw ffrwythau neu dopins yn gweithio. Wedi’i phlesio gan y danteithion syml a maethlon, ychwanegodd Joanna, “Byddai hwn yn un eithaf da i’w wneud gyda’r plant oherwydd rwy’n gwybod y byddai fy nghriw i wrth eu boddau gyda fe.”
Os na ellir ei fwyta fe dylid ei ailgylchu fe
Mae Cymru eisoes yn un o wledydd ailgylchu gorau’r byd, yn ail ar hyn o bryd. Ond nod ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. yw rhoi hwb i Gymru i'r brig.
Dyna pam mae Joanna a Flamebaster yn annog teuluoedd i fanteisio i’r eithaf ar eu casgliadau gwastraff bwyd lleol, gan sicrhau bod bwyd anfwytadwy fel plisgyn wyau, crwyn llysiau ac esgyrn cyw iâr yn cael eu hailgylchu er mwyn eu troi'n ynni adnewyddadwy.
Felly, p'un a ydych yn y Barri, Bangor, neu rywle yn y canol, mae'n bryd tynnu gwastraff bwyd oddi ar y fwydlen. Dilynwch esiampl Joanna a Flamebaster – achubwch y cynh
Beth mae'r cogyddion yn ei ddweud
Meddai Joanna Page:
Rwy’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Cymru yn Ailgylchu a Chris i helpu teuluoedd leihau gwastraff bwyd ac arbed arian gyda ffefrynnau cyflym, hawdd a maethlon y gallwn roi hwb iddynt gyda pha bynnag gynhwysion sydd ar ôl yn yr oergell.
Gall amser bwyd yn ein tŷ ni fod yn brysur iawn gyda phedwar o blant i’w bwydo, pob un â'i hoffterau ei hun, felly rydyn ni wedi datblygu ambell i bryd lysh sy'n ddigon hyblyg i fodloni unrhyw fwytäwr ffyslyd ac yn ddigon syml i deuluoedd prysur. Ar yr un pryd, mae'n helpu i leihau'r bwyd sy'n mynd i'r bin, gan arbed arian i ni i gyd.
Meddai Chris Roberts:
Dwi di bod yn hyrwyddo'r ymgyrch ers blynyddoedd achos dwi’n angerddol dros leihau gwastraff bwyd. Fel Joanna, mae genai bedwar o blant, felly dwi'n gwybod mor bwysig ’di cael prydau bwyd cyflym, hawdd, iach a fforddiadwy. Mae'r ryseitiau yma’n yn ticio'r bocsys i gyd, a mae’n defnyddio'r bwyd sy'n cael ei wastraffu fwya aml, fel tatws, cyw iâr a llysiau. Dwi’n egseited i ddangos i bobl sut maen nhw’n gallu lleihau gwastraff bwyd, arbed arian a helpu Cymru i fachu’r safle cynta!
Ymunwch â'r ymgyrch gwych
Eisiau helpu i wthio Cymru i'r brig yn fyd-eang am ailgylchu? Wneud yr addewid a darganfod sut y galli leihau gwastraff bwyd, arbed arian, a chwarae dy ran dros y blaned. Hefyd, bydd cyfle i ennill gwobr Gymreig flasus.