Dodrefn ystafell ymolchi – toiledau, sinciau a baddonau
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae’n bosibl ailgylchu dodrefn ystafell ymolchi yn rhai o’n mannau ailgylchu oddi cartref – mwy o wybodaeth isod.
Sut i ailgylchu dodrefn ystafell ymolchi
Pan fo sinciau, toiledau a baddonau wedi cracio, neu pan fyddan nhw heibio’u gorau yn gyffredinol, ac na ellir eu defnyddio at ddiben arall neu eu gwerthu ymlaen, gellir cael gwared arnynt mewn canolfan ailgylchu gwastraff y cartref leol;
Os ydych chi’n defnyddio fan, gwiriwch gyda’r ganolfan ailgylchu rhag ofn bod angen unrhyw ganiatâd neu brawf adnabod. Cofiwch wirio’r oriau agor hefyd, gan eu bod weithiau’n amrywio ar gyfer ceir a faniau;
Bydd rhai canolfannau ailgylchu’n gofyn ichi roi’r eitemau hyn yn y sgipiau ar gyfer Rwbel, a bydd gan rai eraill sgipiau yn arbennig ar gyfer eitemau ceramig;
Dylid tynnu tapiau a’u rhoi yn y sgipiau ar gyfer Metelau Cymysg;
Gwiriwch gyda’ch cyngor lleol i weld a ydyn nhw’n darparu gwasanaeth casglu ar gyfer eitemau mawr, swmpus.