Llestri
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae’n bosibl ailgylchu llestri mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Sut i ailgylchu llestri
Gallwch roi eitemau sy’n dal i fod mewn cyflwr da i elusennau neu siopau elusen;
Gellir ailgylchu platiau tafladwy wedi’u gwneud o blastig neu bapur/cerdyn i’w hailddefnyddio os ydynt wedi’u glanhau a heb fwyd arnynt. Fel arall, mae angen eu rhoi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu;
Rhowch lestri wedi torri yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Platiau a phowlenni tafladwy
Fel gyda chyllyll a ffyrc tafladwy, y peth gorau i’w wneud yw osgoi defnyddio platiau a phowlenni tafladwy os yw’n bosibl. Mae Cyfarwyddeb Plastigion gan yr UE yn golygu y bydd platiau a phowlenni plastig tafladwy yn cael eu diddymu, yn cynnwys yn y DU yn ei dro.