Skip to main content
English
English
Llun sialc gwyn o blwg tri phin trydanol ar gefndir du gyda stribed o groen oren fel y cebl gyda'r testun "Bydd Wych Ailgylch" and "Be Mighty Recycle"

Bobl Cymru! Mae’r pŵer yn eich dwylo (TEST - The Welsh is not updated)

Rydyn ni’n falch o fod yn ail genedl ailgylchu orau’r byd. Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut y gallwch arbed arian, creu pŵer i Gymru a helpu i fynd â Chymru i rif 1

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gwybod y dylai gwastraff bwyd fynd i’r cadi cegin, ond bwyd yw chwarter cynnwys y bin sbwriel cyfartalog o hyd. Mae taflu bwyd bwytadwy i ffwrdd yn costio ffortiwn inni, ond mae gan fwyd na ellir ei fwyta’r potensial i gael ei drawsnewid yn ynni, pan gaiff ei ailgylchu.

Sut mae gwastraff bwyd yn creu pŵer?

Pan gaiff ei gasglu o’ch cartref, caiff gwastraff bwyd ei gludo i gyfleuster ‘treulio anaerobig’ ble mae’r methan yn cael ei harneisio i greu bio-nwy, sy’n cynhyrchu ynni. Gwyliwch fideo Matt Pritchard i weld y broses anhygoel hon ar waith!

Ddim yn ailgylchu dy wastraff bwyd ar hyn o bryd? Ymuna â’r 80% ohonom sy’n gwneud eisoes drwy archebu cadi yma.

Ailgylcha dy wastraff bwyd fel pro – 5 tip gwych gan Matt i osgoi’r “ych a fi”

“Mae rhai pobl yn meddwl y gall ailgylchu gwastraff bwyd fod braidd yn ‘ych a fi’ – ond does dim rhaid iddo fod”. Mae ailgylchu ein gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon mewn gwirionedd, ac mae’n lanach na’i roi yn y bin. Galli osgoi’r elfen ych a fi drwy ddilyn tips gwych Matt.

Yn galw holl athrawon!

Yn galw holl athrawon!

Gweithgaredd addysgol am ddim sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm â chystadleuaeth.

Dysgwch fwy neu rhannwch gydag athro