Skip to main content
English
English
A line up of cute food characters with happy faces (a leek, egg, pumpkin, chicken and banana) with the headline: Mae ail yn wych - cyntaf nesaf!

Cymru yw ail genedl orau’r byd am ailgylchu, ond rydyn ni’n anelu am yr aur

Achub dy fwyd rhag y bin sbwriel yw’r prif beth y galli ei wneud i helpu rhoi hwb i Gymru tua’r brig. Ymuna â’n hymgyrch gwych am gyfle i ennill gwyliau neu antur wych yng Nghymru.

  • Awydd ennill gwyliau i 6 i gyrchfan hynod y Bluestone Resort, neu fynediad am ddim i rai o brif atyniadau Cymru?

  • Beth am docynnau VIP i Folly Farm, profiad gwefreiddiol yn Zip World, ymweliad â’r Sw Fynydd Gymreig gyda bwyd am ddim, taith anturus o amgylch y Royal Mint Experience, neu Docyn Crwydro Cadw i 4?

  • Mae’n hawdd! Am gyfle i ennill un o’r gwobrau anhygoel hyn, gwna’r addewid i achub dy fwyd o’r bin sbwriel, a thanysgrifia i’n e-gylchgrawn “Dewch inni gael Cymru i Rif 1”.

Er bod Cymru ar flaen y gad yn barod, rydyn ni’n dal i daflu digon o fwyd i lenwi 3,300 o fysiau deulawr bob blwyddyn – a gellid bod wedi bwyta’r rhan fwyaf ohono. Dewch inni wneud rhywbeth yn ei gylch a helpu Cymru i hawlio’r safle 1af.

Rwy’n addo achub fy mwyd rhag y bin sbwriel

  • Trwy wastraffu llai o fwyd – yn ddefnyddio'r holl fwyd rwy'n ei brynu mewn prydau a byrbrydau, ac arbed arian yn y broses

  • Trwy ailgylchu beth bynnag na allaf ei fwyta – eitemau fel plisgyn wy, esgyrn, a choesynnau llysiau, i helpu creu ynni adnewyddadwy a gwneud Cymru yr wlad ORAU’R byd am ailgylchu.

7 pryd gwych i wneud i dy fwyd fynd ymhellach

7 pryd gwych i wneud i dy fwyd fynd ymhellach

Archwilia ein ‘prydau gwych’! Gellir gwneud y prydau bwyd hyblyg, maethlon a blasus hyn yn sydyn ac yn hawdd, sy’n ddelfrydol ar gyfer aelwydydd prysur sydd angen opsiwn hawdd o bryd i’w gilydd.

Pori’r prydau bwyd
Arbed arian a chreu ynni drwy achub dy fwyd

Arbed arian a chreu ynni drwy achub dy fwyd

Mae’r aelwyd gyffredin o 4 o bobl yn taflu gwerth £84 o fwyd i’r bin bob mis. Dysga sut galli di arbed arian rhag y bin drwy fod yn ddoethach gyda dy fwyd, gan greu ynni adnewyddadwy drwy ailgylchu’r hyn na alli di ei fwyta.