Skip to main content
English
English
Sian Morgan, Food Waste Specialist, stands in her kitchen making a pizza.

News & Campaigns

Cyffesiadau Sbwrielegydd – haciau bwyd hawdd Sian i deuluoedd prysur

Mae ein Harbenigwr Gwastraff Bwyd, Sian Morgan, yn rhannu ei haciau profedig i gael mwy allan o’r bwyd rwyt ti’n ei brynu, gan reoli prydau bwyd teuluol trafferthus, a chanfod ffyrdd ymarferol o osgoi gwastraff diangen.

Rydw i’n hoff iawn o fwyd ond rhwng bod â dau blentyn yn yr ysgol gynradd, swydd brysur a bywyd cymdeithasol llawn (fy mhlant yn bennaf!), rydw i wedi cael fy siâr o brynu gormod a methiannau amser swper, gan arwain at wastraff bwyd anfwriadol.  

Mae gweithio yn WRAP wedi dangos i mi pa mor werthfawr yw ein bwyd – o’r adnoddau sy’n mynd i’w gynhyrchu i sicrhau bod y bwyd na allwn ei fwyta yn cael ei ailgylchu i greu ynni adnewyddadwy i Gymru. 

Gofynnwyd i mi rannu fy hoff awgrymiadau ar gyfer rheoli'r bwyd rydyn ni’n ei brynu, gyda theulu ifanc prysur i’w fwydo. Dydyn ni ddim bob amser yn gwneud pethau'n iawn, ond gobeithio ei fod yn rhoi rhywfaint o ysbrydoliaeth, gan wneud bywyd ychydig yn haws, arbed amser ac achub arian rhag y bin hefyd! 

Bod yn 'Sbwrielegydd' – gwirio’r cadi bwyd

Os wyt ti wedi gwylio ffilm ddiweddaraf Bridget Jones, efallai iti sylwi ar ei darpar gariad ifanc, Roxster, sy'n honni ei fod yn Sbwrielegydd*. Dyma fi'n meddwl, OMB fi yw honno! Wel, mewn ffordd... dwi ddim cweit yn ddeifiwr biniau ond mae fy nheulu wedi arfer ’da fi’n cwestiynu eitemau sydd wedi ffeindio eu ffordd i'r bin bwyd. Mae'n ffordd dda o gael synnwyr o ba fwyd bwytadwy sydd yn y cadi fel arwydd o newid yn ein chwaeth a'n harferion bwyta. Fel arfer, mae'n fy annog i ystyried beth alla i brynu llai ohono'r tro nesaf, sy'n hawdd ei wneud wrth brynu ffrwythau a llysiau rhydd – bydd dim ond un banana’n llai neu lai o datws rhydd yn arbed yr arian i mi ac yn osgoi'r gwastraff. 

*enw: sbwrieleg  

astudio cymuned neu ddiwylliant trwy ddadansoddi ei wastraff.  

Mae sbwrielegydd yn pori trwy finiau gwastraff i chwilio am ddogfennau diddorol. 

Siopa’r oergell yn gyntaf

Yng nghanol anhrefn rhianta, rhwng patrwm y diwrnod ysgol, clybiau’r plant a’r gwaith, mae'n hawdd bod mewn meddylfryd awtopeilot wrth ymdrin â siopa bwyd. Ar y cyfan, bydd fy siopa bwyd yn cael ei wneud rywbryd dros y penwythnos, ond gallaf bob amser fod yn siŵr, pan fydda i’n meddwl ei bod hi’n bryd ailstocio fy nwyddau bwyd, bod yna bethau yn llechu yn yr oergell, y cwpwrdd a'r rhewgell y gellir eu defnyddio i greu ambell bryd blasus arall.  

… Rhywbeth ar dost, taten drwy'i chroen wedi'i llenwi neu basta syml sydd fel arfer yn cyfuno stoc y cwpwrdd bwyd gydag ambell beth ffres sydd angen ei ddefnyddio. Os ydw i wedi gallu gohirio'r siop fwyd am ddiwrnod neu ddau arall, dwi'n ennill! 

Prynu unwaith, gwneud ddwywaith

Wrth siopa am ddillad, rydw i bob amser yn ystyried sut y gellir ei wisgo mewn gwahanol ffyrdd cyn asesu a yw'n beth da i’w brynu. Wrth sgwennu fy rhestr siopa, rydw i'n gwneud yr un peth ac yn ystyried sut y gellir defnyddio pob cynhwysyn mewn mwy nag un pryd a chyn imi droi rownd, rydw i wedi rhestru llawer llai o eitemau ar y rhestr siopa.  

Er enghraifft, dydyn ni byth yn bwyta pen cyfan o frocoli mewn un pryd bwyd – felly defnyddio ei hanner i’w fwynhau gyda chyw iâr rhost, chwarter ar gyfer pesto pasta'r plant, ac unrhyw beth sy'n weddill (gan gynnwys torri'r coesyn!) i’w roi mewn pryd tro-ffrio. Os bydda i’n bwriadu gwneud fajitas, byddaf yn ystyried prydau eraill a fydd yn cynnwys pupurau a bara tortila, oherwydd unwaith eto, gwn y bydd gen i ormod ar gyfer un pryd bwyd. Efallai y byddwn i'n defnyddio pupurau hefyd gyda sylfaen o chorizo a thomato gyda physgod gwyn, neu eu cadw’n amrwd a gwneud te syml 'tameidiau i’w pigo' y mae fy mhlant yn dwli arnynt. Mae bara tortila’n golygu y byddaf yn cynllunio ar gyfer gwneud quesadillas neu’n eu pobi i wneud powlenni taco crimp yr wythnos honno. Os yw ysbrydoliaeth yn brin, bydd chwiliad Google sydyn yn aml yn fy helpu. 

Cadw at y ffefrynnau

Gall fod yn ddigon anodd sicrhau dy fod wedi creu pryd o fwyd y bydd pawb yn ei fwynhau, ond pan ddaw'n amser defnyddio cynhwysion o'r oergell, rydw i wedi bod yn eu sleifio i mewn i'n hoff brydau teuluol. Gêm rydw i'n ei chwarae gyda fy mhlant amser bwyd yw 'beth yw'r cynhwysyn cudd?' Maen nhw wrth eu boddau’n dyfalu ac yn aml bydd yn gynhwysion y maen nhw’n honni eu 'casáu'. Y gamp yw sicrhau nad yw'r ateb yn cael ei ddatgelu nes eu bod wedi bwyta eu holl fwyd, ac rydyn ni oll wedi ein synnu a'n plesio eu bod wedi bwyta a mwynhau!  

Cynhwysion cudd clasurol yw hanner winwnsyn, wedi'i dorri'n fân a'i feddalu cyn ei gynnwys mewn bron unrhyw beth, yr ambell fadarchen olaf wedi'u torri'n fân i mewn i saws pasta, yr ychydig lysiau gwyrdd sy'n weddill ar waelod y bag fel sbigoglys, wedi'u blendio yn eu pesto. Anaml y maen nhw’n sylwi ar y symiau bach hyn ond gwn fod ganddynt ychydig o faeth ychwanegol yn eu prydau hefyd. 

A frozen pizza with added toppings of ham and mushroom added from leftover food.

Does dim rhaid coginio o'r dechrau bob amser

Cyfleustra yw’r nod, pan ddaw i brydau canol wythnos, ac mae hynny'n iawn! Ond dwi'n ffan mawr o roi hwb i swperau cyflym a hawdd gyda stwff ffres, ac fel arfer y rhai sydd angen eu defnyddio.  

Fel arfer mae gen i stoc o'n hoff gawliau tun, past cyri neu saws pasta sy'n hynod amlbwrpas ar gyfer ychwanegu 'hyn a’r llall' o’r oergell. Mae pizza margarita plaen, parod i’r popty yn wych ar gyfer hyn hefyd (y rhai wedi’u rhewi fel arfer!), ac yn caniatáu i mi ddarparu at ddant pawb, y sleisys olaf o ham a thomatos ceirios i un, india-corn a phupur i un arall a gratin ychwanegol o gaws i ddefnyddio’r darnau olaf sy’n mynd yn galed. 

Dewch i ni gael Cymru i Rif 1

Mae Cymru yn 2il yn y byd am ailgylchu ar hyn o bryd, ond rydyn ni’n anelu am y safle 1af! Achub bwyd o'r bin ac ailgylchu'r bwyd na allwn ei fwyta yn y cadi bwyd bob amser yw'r prif gamau y gallwn eu cymryd. Gweler y Prydau Gwych ar wefan Cymru yn Ailgylchu am ragor o ysbrydoliaeth i arbed amser ac arian a helpu Cymru i fod yn wlad ailgylchu orau’r byd. 

6 phryd gwych i arbed amser ac arian i ti

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon