Fel rhan o'n hymgyrch #ByddWychAilgylcha, gofynnwyd i chi rannu eich Prydau Gwych. Y ryseitiau sylfaen clyfar hynny y gellir eu paratoi unwaith, eu haddasu drwy gydol yr wythnos gyda gwahanol seigiau ochr a chyfwydydd, ac ailgylchu'r hyn na ellir ei fwyta i helpu i roi hwb i Gymru i Rif 1 yn y byd am ailgylchu.
Yr her? Creu prydau sy'n arbed amser, yn arbed arian, ac yn helpu i bweru Cymru drwy leihau gwastraff bwyd. O fwydydd pob melys wedi'u hysbrydoli gan Gymru i brif gyrsiau cysurlon, profodd enillwyr ein cystadleuaeth fod prydau blasus a byw'n gynaliadwy yn mynd law yn llaw.
Dyma dair rysáit fuddugol i roi hwb i ymarfer corff, wythnosau prysur, a hyd yn oed i ddant melys. A hynny i gyd wrth roi ail, trydydd a hyd yn oed pedwerydd bywyd i’r pryd sylfaenol ac ailgylchu'r darnau na ellir eu bwyta i greu ynni adnewyddadwy i bweru cartrefi ledled Cymru
Pot Pasta Pŵer James – Y pryd bwyd teuluol gwych sy'n llawn carbohydradau

Sylfaen James yw saws tomato a llysiau wedi'u rhostio – wedi'i goginio unwaith a'i addasu i wneud tri phryd:
Diwrnod 1 – Powlen pasta
Powlen pasta cysurlon gyda basil ffres a chaws Parma – tanwydd delfrydol cyn mynd i redeg am gyfnod hir.
Diwrnod 2 – Salad pasta
Salad pasta oer gyda berwr a thomatos bach fel cinio hawdd.
Diwrnod 3 – Pasta pob
Pasta pob cysurus wedi'i bobi gyda chaws a thopin briwsion bara cartref wedi’i wneud o hen fara
Haciau bwyd doeth
Mae hen fara yn gwneud topin perffaith ar gyfer pasta.
Mae coesynnau perlysiau wedi’u torri i mewn i'r saws yn rhoi blas ychwanegol.
Mae pob croen anfwytadwy yn mynd yn syth i'r cadi gwastraff bwyd i helpu pweru cartrefi ledled Cymru.
Addasodd James y pryd hwn ar gyfer ei ferch hefyd trwy gymysgu'r saws yn llyfnach ac ychwanegu ychydig o gaws wedi'i gratio ar ei ben – mae hi wrth ei bodd!
Mae hyd yn oed sbaniel gwallgof James yn cael unrhyw fwyd dros ben nad yw'n cael ei fwyta, felly does dim byd yn cael ei wastraffu!
Mins Marathon Gwych Megan – Tanwydd i dy goesau, dy ras – a hyd yn oed i grid pŵer Cymru!

Sylfaen Megan yw briwgig eidion wedi'i goginio'n araf gyda nionod, garlleg, moron, seleri, piwrî tomato, tomatos tun, stoc a pherlysiau. Yn llawn haearn a phrotein, dyma'r tanwydd perffaith ar gyfer ymarfer corff – ac mae’n ddigon hyblyg i dy bweru drwy gydol yr wythnos.
Pryd 1 – Achubiad ar ôl Rhedeg yn Hir
Bolognese Cig Eidion Clasurol gyda Sbageti Gwenith Cyflawn. Mae'r wythnos hyfforddi yn dechrau gyda phlatiad o fins cig eidion sy'n llawn haearn a phasta gwenith cyflawn am egni hirhoedlog. Tip gwych: Gellir ychwanegu rhywfaint o gorbys i wneud i'r cig eidion fynd ymhellach.
Pryd 2 – Cwtsh ar ôl Sesiwn Elltydd
Pastai bwthyn. Perffaith ar ôl sesiwn galed ar yr elltydd. Llawn cysur a llawn carbohydradau a phrotein i adfer y cyhyrau. Ychwanegu ychydig o ronynnau grefi a phys at y mins sydd dros ben. Ei haenu gyda thatws stwnsh / tatws melys / moron neu beth bynnag sydd dros ben acw. Ei bobi nes bydd yn euraidd. Tip: Ychwanegu ychydig o gaws ar ei ben i roi hwb i’r blas.
Pryd 3 – Tatws Sgwâr Cyflym
Sgwariau Tatws Crensiog wedi'u gorchuddio â Mins Cig Eidion a Chaws. Gwych ar gyfer cinio cyflym cyn sesiwn cyflymder. Torri tatws dros ben yn giwbiau, taenu olew drostynt, ychwanegu ychydig o flas a’i goginio yn y popty neu'r ffwrn ffrio nes eu bod yn grimp. Mins wedi'i aildwymo ar ei ben a thipyn o gaws. Tip gwych: Rhoi’r tatws wedi'u ciwbio yn y microdon am ychydig funudau cyn eu rhoi yn y popty am ginio hyd yn oed yn gyflymach.
Pryd 4 – Bara Tortila yn Barod i Rasio
Mins a Llysiau mewn Bara Tortila. Perffaith ar gyfer y noson cyn rhedeg yn hir. Rholio gweddill y mins mewn bara tortila gyda llysiau (e.e. pupurau, sbigoglys), ychwanegu caws wedi'i gratio a llwyaid o iogwrt. Tip gwych: Gellir cadw unrhyw fara tortila dros ben yn y rhewgell. Maen nhw mor hawdd i'w dadmer pan fo’u hangen.
Hwb Bara Brith gan Laura – Y cwtsh Cymreig ar ffurf sleisen – yn danwydd i redeg, adferiad a thu hwnt.

Sylfaen Laura yw Hwb Bara Brith – torth sy’n naturiol felys, llawn egni wedi'i gwneud â ffrwythau sych wedi'u socian mewn te, blawd cyflawn, mêl a phinsiad o sbeis cymysg.
Carbohydradau GI isel o flawd cyflawn, egni cyflym o ffrwythau a'r blas bara brith digamsyniol hwnnw.
Diwrnod 1 – Sleisen o Bŵer i Frecwast
Tostio tafell drwchus, gan daenu menyn cnau daear arni a rhoi banana wedi'i sleisio ar ei phen am frecwast cyn sesiwn rhedeg hir na fydd yn rhoi sgeg i’r siwgr gwaed.
Diwrnod 2 – Tanwydd yn dy Boced
Pobi’r un cymysgedd mewn tuniau myffins i wneud “tameidiau” o fara brith cludadwy, sy’n hawdd eu rhoi mewn gwregys rhedeg i gael egni oddi cartref yn ystod Hanner Marathon Caerdydd.
Diwrnod 3 – Pwdin Adferiad
Briwsioni bara brith dros ben dros iogwrt Groegaidd gyda llwyaid o fêl ac afal wedi'i dorri am bwdin adferiad llawn protein, y bydd mawr ei angen ar ôl 13.1 milltir!
Haciau bwyd doeth
Defnyddio te wedi'i or-fragu a fyddai fel arall yn cael ei daflu.
Dewis bagiau te di-blastig, compostadwy fel y gall y bag a'r dail fynd yn syth i'r bin gwastraff bwyd i'w hailgylchu'n ynni adnewyddadwy a gwrtaith yng Nghymru.
Defnyddio unrhyw ffrwythau sych sydd dros ben o gefn y cwpwrdd (resins, cyrens, bricyll ac ati).
Gellir malu sleisys hen yn friwsion bara i roi topin briwsion melys ar afalau wedi'u pobi.
