Skip to main content
English
English

Newyddion Ac Ymgyrchoedd

Telerau ac amodau cystadleuaeth Bydd Wych. Ailgylcha.

1. Hyrwyddwr yr Hyrwyddiad yw WRAP, sydd yn Elusen gofrestredig yn y DU (rhif 1159512), a’i gyfeiriad yw Second Floor, Blenheim Court, 19 George Street, Banbury, OX16 5BH.

2. Mae’r gystadleuaeth raffl wobrau am ddim hon yn agored i breswylwyr y DU sy’n 18 mlwydd oed neu’n hŷn. Ni chaniateir i gyflogeion WRAP, partner/iaid sy’n rhan o’r gystadleuaeth, nac aelodau o’u teuluoedd nac unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â’r Hyrwyddiad mewn unrhyw ffordd neu sy’n helpu i drefnu’r Hyrwyddiad gymryd rhan ynddo.

3. O gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad, ystyrir eich bod wedi derbyn y telerau ac amodau hyn felly darllenwch nhw’n ofalus cyn cymryd rhan yn yr Hyrwyddiad.

4. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a roddwch drwy gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad yn cael ei gadw a’i brosesu gan yr Hyrwyddwr neu ar ei ran yn unol â Pholisi Preifatrwydd WRAP sydd ar gael yma https://wrap.org.uk/privacy-policy ac fe’i defnyddir mewn cysylltiad â’r Hyrwyddiad hwn yn unig.

5. Mae’r Hyrwyddiad yn dechrau dydd Iau 27ain Chwefror 2025 am 00:01 (GMT) a daw i ben am 23:59 (GMT) dydd Llun 21ain Ebrill 2025.

6. Rhaid i geisiadau gael eu derbyn o dydd Iau 27ain Chwefror 2025 am 00:01 (GMT) a chyn 23:59 (GMT) ar dydd Llun 21ain Ebrill 2025. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir y tu allan i'r cyfnod hwn yn ddilys.

7. Gallwch gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad yma https://www.walesrecycles.org.uk/cy/bydd-wych-ailgylcha. Cyfyngir y ceisiadau i un ymgais fesul person, fesul cyfeiriad e-bost. Os bydd ymgeisydd yn cyflwyno mwy nag un cais fesul cyfeiriad ebost, yna dim ond y cyntaf ar gyfer y cyfeiriad e-bost hwnnw fydd yn cyfrif.

8. Bydd 7 enillydd o blith yr holl geisiadau dilys ar https://www.walesrecycles.org.uk/cy/bydd-wych-ailgylcha. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap dydd Mercher 23ain Ebrill 2025 gan WRAP o blith yr holl geisiadau dilys a gyflwynwyd ar www.walesrecycles.org.uk/be-mighty-recycle.

9. Bydd yr enillwyr yn derbyn, fel a ganlyn:

  • Bydd yr enillydd cyntaf, a ddewisir ar hap, yn ennill 'Hamper Dewi Sant' gan Bwyd Cymru Bodnant.

  • Bydd yr ail enillydd, a ddewisir ar hap, yn ennill Hamper Cwrw gan Tiny Rebel Brewery.

  • Bydd y trydydd enillydd, a ddewisir ar hap, yn ennill talebau teisen hufen iâ gan Joe's Ice Cream.

10. I gystadlu rhaid i chi: lenwi'r ffurflen a thicio'r addewid a'r opsiwn cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Mae’r ffurflen ar gael yma https://www.walesrecycles.org.uk/cy/bydd-wych-ailgylcha. Rhaid i chi hefyd fod yn hŷn nag 18 oed ac yn byw yng Nghymru, a darparu eich cyfeiriad ebost, enw a lleoliad yng Nghymru.

11. O gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad, rydych yn rhoi caniatâd i WRAP ddefnyddio’ch enw mewn cyfathrebiadau am yr hyrwyddiad hwn, ac ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Cymru yn Ailgylchu.

12. Cysylltir â’r enillydd drwy’r cyfeiriad ebost a ddefnyddiwyd i gymryd rhan yn y Gystadleuaeth erbyn 23:59 dydd Llun 28ain Ebrill 2025.

13. Rhaid i’r enillwyr roi prawf o hunaniaeth a phrawf o’u cyfeiriad cartref yng Nghymru i’r Hyrwyddwr i gadarnhau eu bod yn gymwys cyn cael eu cadarnhau fel yr enillwyr terfynol a chyn trefnu i’r wobr gael ei dosbarthu. Bydd yr Hyrwyddwr yn rhoi cyfeiriad ebost yr enillydd i roddwyr y Gwobrau er mwyn dosbarthu gwobrau.

14. Os na fydd yr Hyrwyddwr yn derbyn ymateb gan yr enillydd/wyr o fewn 72 awr o’i ymgais gyntaf i gysylltu, mae’r enillydd/enillwyr yn gwrthod eu gwobr, neu canfyddir wedyn bod y cais yn annilys neu’n torri’r telerau ac amodau hyn yna bydd y wobr(au) yn cael eu fforffedu, a bydd gan yr Hyrwyddwr yr hawl i ddewis enillydd(wyr) arall.

15. Bydd y gwobrau'n cael eu danfon i'r enillwyr i'w cyfeiriad ebost neu'r cyfeiriad a ddarparwyd.

16. Nid yw’r Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â’r wobr nad ydynt wedi’u cynnwys yn benodol yn y wobr.

17. Ceidw’r Hyrwyddwr yr hawl i gyfnewid gwobr o’r un gwerth neu werth uwch os na fydd y wobr(gwobrau) gwreiddiol ar gael mewn amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth resymol. Mae'r gwobrau'n anghyfnewidiol, ni ellir eu trosglwyddo, ac ni ellir eu hawlio fel arian neu wobrau eraill.

18. Ceidw’r Hyrwyddwr yr hawl ar unrhyw adeg ac o bryd i’w gilydd i addasu neu ddod â’r Hyrwyddiad i ben, dros dro neu’n barhaol, gyda neu heb rybudd ymlaen llaw am resymau y tu hwnt i’w reolaeth.

19. Ni fydd yr Hyrwyddwr yn atebol am unrhyw fethiant i dderbyn ceisiadau ac nid yw’n cymryd unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau coll, gohiriedig, annarllenadwy, llygredig, difrodedig, anghyflawn neu annilys fel arall.

20. Nid yw’r Hyrwyddwr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddifrod, colled, atebolrwydd, anaf neu siom a achosir neu a ddioddefir o ganlyniad i gymryd rhan yn yr Hyrwyddiad neu dderbyn y wobr. Ni fydd unrhyw beth yn eithrio atebolrwydd yr Hyrwyddwr am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i’w esgeulustod.

21. Os bydd unrhyw ddarpariaeth yn y telerau ac amodau hyn yn cael ei hystyried yn annilys gan unrhyw gyfraith, rheol, gorchymyn neu reoliad unrhyw lywodraeth, neu gan benderfyniad terfynol unrhyw lys ag awdurdodaeth gymwys, ni fydd annilysrwydd o’r fath yn effeithio ar y gallu i orfodi unrhyw ddarpariaethau eraill.

22. Bydd penderfyniad yr Hyrwyddwr mewn perthynas â’r holl faterion sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth ar y mater.

23. Bydd enw’r enillwyr ar gael 28 diwrnod ar ôl y dyddiad cau drwy ebostio’r cyfeiriad canlynol walesrecycles@wrap.ngo

24. Mae’r Hyrwyddiad a’r telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr.

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon