Bydd ein saith ‘pryd gwych’ yn eich helpu i arbed arian a lleihau gwastraff drwy ddefnyddio cynhwysion sy’n mynd yn angof yn aml. Maen nhw’n hyblyg, yn faethlon, ac yn hawdd a sydyn i’w paratoi. Perffaith ar gyfer aelwydydd prysur sydd ar frys o bryd i’w gilydd.
Prydau gwych i’w pori
Cofia ailgylchu pennau llysiau a chroen a choesyn y bwmpen.
Defnyddia dy bwmpen, gwrd gaeaf, moron, pannas, tatws melys.
Torra nhw’n ddarnau o’r un maint a’u rhostio yn y ffwrn, gyda halen, pupur ac olew am tua 40 munud neu nes byddan nhw’n felys, gludiog a blasus!
Galli eu prosesu gyda stoc i wneud cawl cynhesol, eu cymysgu mewn cwscws neu eu rhoi ar ben taten drwy’i chroen gyda chaws am ginio cyflym ar ddiwrnod gwaith.
Cofia ailgylchu graidd yr afal a chroen y fanana.
Sleisia’r afal olaf, 1 llwy fwrdd o siwgr, 1/2 llwy de o sinamon a’i feddalu mewn padell dros wres isel am 10 munud.
Rho’r cymysgedd rhwng dwy dafell o fara menyn a’i dostio mewn padell neu beiriant tostis.
Bydd yn greadigol gyda chyfuniadau gwahanol i’r llenwad – mwyar, bananas, jam neu lenwad past siocled!
Cofia ailgylchu topiau llysiau, plisg wyau ac esgyrn cig.
Dewis dy hoff bast neu saws cyri (mae paced o’r siop yn hollol iawn!) a bod yn greadigol gyda’r llenwad gan ddibynnu pa gynhwysion sydd angen ei ddefnyddio.
Er enghraifft, cyri gwyrdd gyda brocoli, sbigoglys a blodfresych; neu gyri cynhesol gyda phwmpen, moron, a thatws melys; neu gadw pethau’n syml a defnyddio darnau o gig dros ben o’r cinio Sul, fel darnau o gyw iâr.
Gellir ei weini gyda reis, sglodion neu daten drwy’i chroen.
Cofia ailgylchu esgyrn cig, crwyn winwns, creiddiau pupurau a choesynnau llysiau.
Estynnwch badell ffrio nad yw’n glynu a dechrau gan goginio unrhyw lysiau tan maen nhw’n feddal.
Mae winwns wedi’u gratio, pupurau a courgette yn gyfuniad blasus a lliwgar; ambell daten wedi’i berwi gyda’i chroen dal arni am fwy o sylwedd – ond gallwch ddefnyddio unrhyw beth, mae cig wedi’i goginio’n wych hefyd!
Ychwanega wy wedi’i chwisgo i’r badell a’i goginio ar wres isel nes bydd bron wedi caledu. Rho ychydig o gaws ar ei ben a’i roi dan y gril am ychydig funudau i frownio. Blasus!
Cofia ailgylchu esgyrn cig, creiddiau pupurau a choesynnau llysiau.
Dewisa unrhyw lysiau sydd angen eu defnyddio fel dewis amgen (neu ychwanegiad!) at y sylfaen fajita o winwns a phupurau. Pethau fel madarch, tomatos, sbigoglys neu lysiau rhost dros ben i roi hwb i’r pryd.
Yna, ei sesno gyda dy hoff sbeisys fajita – mae’r stwff pecyn yn hollol iawn!
Taflwch eich cyw iâr wedi’i goginio dros ben i’r badell a’i dwymo nes mae’n chwilboeth. Mwynhewch mewn bara tortila neu ar daten drwy’i chroen.
Cofiwch ailgylchu coesynnau tomato, pen gwraidd y genhinen, a choesyn llysiau ac eitemau salad eraill.
Byddwch yn fentrus, defnyddiwch unrhyw fara sy’n digwydd bod yn y cwpwrdd – pita, bara tortila, neu rôl... neu hyd yn oed lwyaid o’r cyri neu tsili sydd dros ben ers neithiwr at eich hoff lenwad caws yn ei wneud yn epig!
Tostiwch eich llenwad rhwng darnau o fara menyn, mewn padell gynnes neu yn y ffwrn ffrio.
Gweinwch gydag eitemau salad o’ch oergell.
Cofiwch ailgylchu crwyn bananas, creiddiau afalau, crafion ffrwythau anfwytadwy.
Byddwch yn greadigol gyda'r tameidiau olaf o ffrwythau – rhowch dafelli tenau o fanana, afalau (does dim angen plicio!) yn haenau gyda iogwrt plaen neu ffrwythau.
Gallwch ychwanegu unrhyw ffrwythau eraill sydd angen eu defnyddio – mae’r cyfuniadau’n ddi-ben-draw.
Taenwch ychydig o granola crensiog, cnau, rhesins neu fisgedi wedi’u torri’n fân a diferyn o fêl.
Caiff unrhyw beth na alli di ei fwyta fynd i’r cadi gwastraff bwyd – yn cynnwys:
unrhyw fwyd heb ei fwyta a chrafion plât
bwyd heibio’i ddyddiad neu wedi llwydo
cig a physgod amrwd ac wedi’u coginio, yn cynnwys esgyrn a phlisg
llysiau a ffrwythau yn cynnwys llysiau amrwd ac wedi’u coginio a’u crwyn
cynnyrch llaeth, wyau a phlisg wyau.
Cael eich ysbrydoli gan Matt Pritchard a Flamebaster
Mwy o ffyrdd o fanteisio i’r eithaf ar fwyd
Chwe ffordd o fwyta eich pwmpenni Calan Gaeaf
Dysga fwy ar wefan Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff.