Syml, hyblyg, ac yn llawn daioni

Mae'r wyau pob diffwdan hyn yn gwneud bwyta'n iach yn hawdd. Galli ei weini’n boeth neu'n oer, wedi’i sleisio i frecwast, fel byrbryd, neu fel cinio oddi cartref.
1. Paratoi!
Gall rhoi ychydig bach o amser i baratoi arbed llawer o amser iti yn nes ymlaen yn yr wythnos.
Cynhwysion sylfaenol: Chwipia’r wyau, joch o laeth, halen a phupur gyda'i gilydd. Yna’i arllwys dros glawr pobi o winwns wedi'u coginio'n ysgafn, garlleg, a dy ddewis o lysiau neu brotein. Y cam nesaf yw ei bobi nes ei fod yn euraidd a’r wy wedi coginio.
Rho hwb iddo, yn llawn daioni a blas:
Mae’r teulu cyffredin yn gwastraffu gwerth £84 o fwyd y mis – ond galli arbed arian a gwastraffu llai drwy ddefnyddio’r hyn sydd gen ti eisoes. Mae rhoi hwb i dy brydau’n gwneud iddyn nhw fynd ymhellach, yn achub bwyd rhag y bin, ac yn ychwanegu at eu blas.
Mae wyau pob yn ffordd wych o ddefnyddio beth bynnag sydd yn yr oergell – o lysiau wedi'u rhostio, sbigoglys a phupurau i fadarch neu courgette. Ychwanega brotein gyda chaws, feta, selsig, toffw neu ffa, yna rho berlysiau ffres ar ei ben.
2. Addasu!
Dyma hud coginio doeth – un sylfaen, opsiynau diddiwedd. Mae addasu’n cadw pethau’n ddifyr, yn arbed amser, ac yn golygu bod gen ti opsiwn blasus a hawdd yn barod bob amser.
Gall dy wyau pob drawsnewid yn rhywbeth newydd drwy gydol yr wythnos.
Fel topin tost – wedi'i lwytho â thopins ychwanegol fel afocado a thomato
Wedi’i stwffio mewn bara tortila – Wedi'i haenu â salad, siytni neu saws poeth am ginio cyflym
Wedi’i weini’n dwym – Wedi'i lwytho â llysiau wedi'u rhostio a dip
Wedi’i dorri’n stribedi – Perffaith i blant neu fel byrbryd cyflym sy'n llawn protein
Tamaid protein ar ôl ymarfer corff – Ei fwynhau'n oer yn syth o'r oergell gyda thalp o gaws colfran neu iogwrt
3. Ailgylchu!
Sut bynnag byddi di’n gweini dy wyau pob, cofia’r cam olaf: Ailgylchu’r hyn na ellir ei fwyta! Yn syth i’r cadi gwastraff bwyd â’r plisgyn wy, coesau’r llysiau, crwyn anfwytadwy a’r esgyrn.
Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy i bweru ein cartrefi a’n cymunedau. Gall dim ond un llond cadi bweru cartref cyffredin am awr!
A phob tro ti'n ailgylchu, rwyt ti'n gwthio Cymru'n agosach at y brig fel gwlad ailgylchu orau’r byd!