Bagiau Te
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Bagiau Te mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Mae’n dda gwybod
Mae llawer o ffyrdd o gael gwared ar eich hen fagiau te. Yn gyffredinol, y peth gorau i’w wneud i atal yr allyriadau nwyon tŷ gwydr a ddaw pan fo bagiau te yn pydru mewn safleoedd tirlenwi yw rhoi bagiau te yn eich cadi gwastraff bwyd i’w hailgylchu.
Allaf i gompostio hen fagiau te gartref?
Mae bagiau te wedi’u gwneud yn bennaf o ffibr planhigion naturiol, ond i’w hatal rhag disgyn yn ddarnau pan fyddwch yn rhoi dŵr berw arnynt, mae yna ychydig bach o ychwanegyn plastig yn cael ei gynnwys i atal hyn rhag digwydd.
Mae llawer o frandiau te naill ai wedi newid, neu yn y broses o newid, i blastig bioddiraddadwy. Yn gyffredinol, mae angen proses ddiwydiannol i dorri’r math hwn o blastig i lawr yn llwyr.
Felly, er y gallwch roi bagiau te yn eich compost cartref, efallai y gwelwch fod ‘sgerbwd’ tenau o’r bagiau ar ôl o hyd. Gellir eu hidlo allan a’u taflu, neu gallech agor y bagiau cyn rhoi’r dail te yn eich bin compost.