Coed Nadolig
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Coed Nadolig mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Sut i ailgylchu coed Nadolig go iawn
Gellir ailgylchu coed go iawn trwy eu rhwygo’n sglodion mân a gaiff eu defnyddio wedyn mewn parciau neu goedwigoedd lleol. Cofiwch dynnu’r holl dinsel ac addurniadau, ac unrhyw botiau neu standiau oddi ar y coed;
Mae cynghorau lleol yn aml yn trefnu mannau danfon neu gasgliadau arbennig ar gyfer coed ‘go iawn’ yn gynnar ym mis Ionawr, ac yn hysbysebu dyddiadau’r gwasanaeth hwnnw ar yr un pryd ag unrhyw newidiadau eraill i gasgliadau dros gyfnod y Nadolig.
Sut i ailgylchu coed Nadolig artiffisial
Mae coed artiffisial wedi’u gwneud o gyfuniad o ddeunyddiau, ac felly ni ellir eu hailgylchu;
Mae’n bosibl y byddai siopau elusen yn derbyn coed artiffisial dieisiau mewn cyflwr da i’w hailwerthu a’u hailddefnyddio.