Ffoil
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Ffoil mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Pa eitemau ffoil neu alwminiwm y gellir eu hailgylchu?
Yn ogystal â ffoil, gallwch ailgylchu eitemau alwminiwm, ond ichi gofio eu rinsio i wneud yn siŵr eu bod yn lân a heb weddillion bwyd, saim neu olew arnynt, a thynnu unrhyw gaeadau plastig ystwyth neu ddeunyddiau pacio eraill.
- Tybiau ffoil, barbeciws tafladwy a chynwysyddion bwyd tecawê; 
- Ffoil cegin, caeadau alwminiwm oddi ar botiau a deunyddiau lapio; 
- Caniau diodydd; 
- Caeadau poteli llaeth; 
- Tybiau rhewi; 
- Ffoil sigaréts a thybaco; 
- Caeadau poteli gwin – ailgylchwch y rhain gyda’r caeadau ar y poteli; 
Sut i ailgylchu ffoil neu alwminiwm
- 1Rhaid i ffoil fod yn lân, heb staeniau a heb fwyd, saim ac olew arno. Rhowch unrhyw ffoil budr neu wedi staenio yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu; 
- 2Rhaid i ffoil fod heb unrhyw fathau eraill o ddeunydd pacio, fel caeadau plastig ystwyth, arno. Tynnwch yr eitemau hyn oddi ar y ffoil a rhowch nhw yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu; 
- 3Sychwch dybiau ffoil neu gallwch eu trochi yn eich dŵr golchi llestri i gael gwared ar unrhyw friwsion neu weddillion bwyd; 
- 4Gadewch gaeadau sgriwio alwminiwm ar jariau gwydr a photeli gwin. 
Sut i wirio a oes modd ailgylchu eich ffoil
- Gall eitemau fel pecynnau creision edrych fel ffoil alwminiwm, ond plastig ystwyth wedi’i feteleiddio yw'r rhain mewn gwirionedd. Ni chaiff y math hwn o ddeunydd ei ailgylchu ar hyn o bryd, ac ni ddylid ei roi yn eich bin ailgylchu. 
Mae’n dda gwybod
Ffordd hawdd o ddarganfod a yw eitem wedi’i gwneud o ffoil ynteu blastig ystwyth wedi’i feteleiddio yw cynnal prawf crychu arno. Yn syml, crychwch yr eitem yn eich llaw – os yw’n aros wedi ‘crychu’, yna ffoil ydyw a gellir ei ailgylchu; os yw’n bownsio’n ôl, mae’n debygol mai plastig ystwyth wedi’i feteleiddio ydyw ac ni ellir ei ailgylchu.