Plastig Ystwyth
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Plastig Ystwyth mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Os na allwch fynd â’ch eitemau plastig ystwyth i fan ailgylchu oddi cartref a bod angen ichi gael gwared arnynt gartref, yna rhowch yr holl rai o blith yr enghreifftiau isod (o’r ddwy restr) yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Pa fathau o blastig ystwyth y gellir eu hailgylchu oddi cartref?
Gall y mathau o blastig ystwyth a gaiff eu derbyn mewn mannau ailgylchu oddi cartref amrywio rhwng lleoliadau gwahanol. Er enghraifft, efallai y bydd un archfarchnad yn derbyn rhai mathau o blastig ystwyth, a siop arall yn eu gwrthod, felly dilynwch y canllawiau a roddir gan y sefydliad sy’n rheoli’r man ailgylchu hwnnw.
Gallai’r mathau o blastig ystwyth a gaiff eu derbyn mewn mannau ailgylchu oddi cartref gynnwys:
Holl fagiau plastig, heblaw bagiau bioddiraddadwy neu gompostadwy;
Bagiau bara;
Bagiau leinio bocsys grawnfwyd;
Haenen lynu a’r modrwyau clymu o becynnau aml-becyn o ddŵr, caniau ac eitemau eraill;
Bagiau bwyd o’r rhewgell, e.e. bagiau llysiau wedi’u rhewi, sglodion bwyd arall;
Bagiau sych lanhawyr neu fagiau sy’n gorchuddio dillad newydd;
Bagiau lapio plastig oddi ar gylchgronau a phapurau newydd;
Bagiau sy’n dal ffrwythau a llysiau rhydd;
Swigod lapio;
Pecynnau creision;
Plastig sydd wedi’i farcio fel polyethylen dwysedd isel (Low-density/LDPE) – cod adnabod resin 4;
Bagiau bara plastig;
Deunydd lapio plastig o becynnau aml-becyn caniau/poteli/creision;
Deunydd lapio plastig o becynnau papur toiled/papur cegin;
Bagiau rhewgell plastig;
Bagiau salad plastig;
Deunydd pacio plastig o archebion ar-lein;
Bagiau pasta a reis;
Bagiau bwyd cath a bwyd ci sych;
Bagiau compost a phridd i’r ardd.
Gallai’r mathau o blastig ystwyth sy’n debygol o BEIDIO cael eu derbyn mewn mannau ailgylchu oddi cartref gynnwys:
Unrhyw fagiau neu haenau budr, er enghraifft os oes darnau o fwyd arnynt;
Unrhyw blastig ystwyth nad yw’n bolyethylen (fel PP, PVC, ac eraill);
Haenen lynu;
Bagiau a haenau compostadwy a bioddiraddadwy;
Caeadau plastig ystwyth oddi ar gynwysyddion prydau parod a photiau;
Pecynnau/codenni sy’n dal bwyd, diod a bwyd anifeiliaid;
Deunydd lapio o’r becws, fel bagiau gyda nifer o fân dyllau ynddynt;
Bagiau bwyd rhewgell plastig;
Deunydd lapio siocled/losin a phecynnau bisgedi;
Y rhwydi plastig a ddefnyddir i ddal ffrwythau a llysiau;
Pocedi plastig ar gyfer dalennau papur, a elwir yn aml yn ‘Poly Pockets’;
Polystyren.
Mae’n dda gwybod
Os byddwch yn dewis mynd â’ch eitemau plastig ystwyth i fan ailgylchu oddi cartref, gwnewch yn siŵr:
bod yr holl eitemau’n lân a heb fwyd arnynt, a
tynnwch y labeli gludiog oddi arnynt pan fo’n bosibl.
Nid yw bagiau compostadwy a bioddiraddadwy wedi’u dylunio i’w hailgylchu gyda phlastigion eraill, ac os ydynt yn cyrraedd y system ailgylchu, mae’n bosibl y byddant yn cael effaith negyddol ar ansawdd y deunydd eilgylch. Os bydd angen cael gwared ar yr eitemau hyn arnoch chi, ac nad oes gennych fin neu domen gompost, yna rhowch y rhain yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.