Potiau Planhigion Plastig
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Potiau Planhigion Plastig mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Sut i ailgylchu potiau planhigion plastig
Mae’r rhan fwyaf o gynghorau lleol yn casglu potiau a thybiau yn eu casgliadau wrth ymyl y ffordd;
Os yw eich cyngor lleol yn gwneud hyn, yna dylech allu rhoi potiau bwyd, perlysiau a phlanhigion nad ydynt yn ddu neu frown i mewn gyda’ch casgliad ailgylchu wrth ymyl y ffordd arferol;
Holwch nhw’n gyntaf i weld a ydyn nhw’n derbyn potiau planhigion plastig;
Mae rhai canolfannau garddio hefyd yn cynnal cynlluniau dychwelyd potiau planhigion;
Mae potiau planhigion du yn cynnwys pigmentau ar hyn o bryd sy’n ei gwneud yn anodd i’r peiriannau didoli a ddefnyddir i sortio plastigion eu canfod ymysg y gweddill, yn wahanol i botiau a thybiau a ddefnyddir ar gyfer pacio bwyd.