Teiars
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Teiars mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Sut i ailgylchu teiars
- Pan fydd angen teiars newydd ar eich car, bydd y garej sy’n eu gosod i chi gael gwared arnynt ar eich rhan fel arfer; 
- Os byddwch yn newid eich teiars gartref, mae’n bosibl y bydd cwmnïau teiars yn gallu cael gwared ar eich teiars am ffi fechan; 
- Gellir mynd â theiars dieisiau i Ganolfannau Ailgylchu – gallwch ddod o hyd i’ch canolfan agosaf isod. Efallai bydd cyfyngiad ar y nifer y cewch eu danfon yno a gallech hefyd orfod talu. Mae’n syniad ichi holi eich cyngor lleol.