Skip to main content
English
English

Dysga i ble mae dy ailgylchu'n mynd

Efallai bod dy ddiwrnod allan yn dirwyn i ben. A gatiau'r atyniadau'n cau. Ond dim ond megis dechrau mae’r antur nesaf i dy ailgylchu.

Gwylia’r siwrne a darganfod beth sy'n digwydd ar ôl iti ddewis y bin cywir.

Mae pob siwrne wych yn dechrau yn rhywle

Mae pob eitem rwyt ti'n ei rhoi yn y bin cywir yn cychwyn ar daith, ac mae'r rhan fwyaf o'r daith honno'n digwydd yn agosach at adref nag y byddet ti’n ei ddisgwyl. Mae bron i 90% o’r ailgylchu a gesglir yng Nghymru yn cael ei brosesu o fewn y Deyrnas Unedig, ac mae mwy na’i hanner yn peidio gadael Cymru o gwbl.

Ar ôl eu casglu, caiff deunyddiau eu sortio, eu prosesu a'u troi’n rhywbeth newydd.

Felly, p'un a wyt ti’n mwynhau mewn atyniad, yn ymweld â chastell mawreddog neu'n crwydro arfordiroedd godidog Cymru'r haf hwn, mae gan bob potel, can, pot iogwrt a chroen banana sy'n cael ei ailgylchu'n gywir gyfle i fynd ar ei antur nesaf.

Ailgylchu, dyna beth rydyn ni'n ei wneud yng Nghymru.

Mae Cymru eisoes yn 2il genedl orau’r byd am ailgylchu, ond rydyn ni’n anelu am yr aur! Mae pob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir yn helpu Cymru symud un cam yn nes at y brig.

Mae dros 90% ohonom yn ailgylchu poteli pethau ymolchi plastig

Mae dros 90% ohonom yn ailgylchu poteli pethau ymolchi plastig

A byddai ailgylchu 9 o boteli fel poteli eli haul yn arbed digon o drydan i bweru sgrin digwyddiad mawr am 2 awr.

Mae gan fetel a gwydr rai o'r anturiaethau hiraf mewn ailgylchu

Mae gan fetel a gwydr rai o'r anturiaethau hiraf mewn ailgylchu

Gellir eu hailgylchu dro ar ôl tro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio o gwbl.

Mae 100% o’r gwydr sy'n cael ei ailgylchu yng Nghymru yn cael ei brosesu yn y DU

Mae 100% o’r gwydr sy'n cael ei ailgylchu yng Nghymru yn cael ei brosesu yn y DU

A byddai ailgylchu 1 botel wydr yn arbed digon o drydan i bweru amp gitâr am 6 awr.

Mae gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu'n ynni gwyrdd yng Nghymru

Mae gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu'n ynni gwyrdd yng Nghymru

Byddai ailgylchu dim ond 1 croen banana yn cynhyrchu digon o drydan i wefru ffôn clyfar yn llawn, yn barod i dynnu mwy o luniau gwyliau!

Cadw’r daith i fynd

Gadewch inni gael Cymru i #1! Llwyddiannau ailgylchu hawdd ar gyfer y gwanwyn a'r haf

Gadewch inni gael Cymru i #1! Llwyddiannau ailgylchu hawdd ar gyfer y gwanwyn a'r haf

Mae Cymru eisoes yn 2il wlad orau’r byd am ailgylchu – ond rydyn ni’n anelu at y brig! A pha amser gwell i adnewyddu dy arferion na thymor y picnics a phartïon yn yr ardd?

Darganfyddwch fwy
Byddwch yn bartner ymgyrch: Pecyn ac adnoddau am ddim ar gyfer gwyliau, digwyddiadau a chyrchfannau ymwelwyr

Byddwch yn bartner ymgyrch: Pecyn ac adnoddau am ddim ar gyfer gwyliau, digwyddiadau a chyrchfannau ymwelwyr

Helpwch ymwelwyr i ddewis y bin cywir yr haf hwn gyda phecyn adnoddau partneriaid parod Bydd Wych. Ailgylcha. AM DDIM ar gyfer gwyliau, digwyddiadau a chyrchfannau ymwelwyr. Mae’r pecyn adnoddau yn llawn fideos, cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, posteri ac adnoddau ymgyrch dwyieithog, sydd oll wedi’u cynllunio i’ch helpu i wella cyfraddau ailgylchu, lleihau halogiad a chefnogi taith Cymru tuag at gyrraedd Rhif 1 yn y byd am ailgylchu.

Eisiau gweld yn union i ble mae dy ailgylchu'n mynd?

Click here to find out what happens to your household waste.

Helpwch i rannu’r neges drwy rannu’r dudalen hon