Dysga i ble mae dy ailgylchu'n mynd
Efallai y bydd y gerddoriaeth yn stopio. Efallai y bydd yr ŵyl yn dod i ben. Ond dim ond megis dechrau mae’r act nesaf i dy ailgylchu.
Gwylia’r daith a darganfod beth sy'n digwydd ar ôl iti ddewis y bin cywir.
Mae pob taith wych yn dechrau yn rhywle
Mae pob eitem rwyt ti’n ei rhoi yn y bin cywir yn cychwyn ar daith. Ac mae'r rhan fwyaf o'r daith honno'n digwydd yn agos at adref. Mae bron i 90% o’r ailgylchu a gesglir yng Nghymru yn cael ei brosesu o fewn y Deyrnas Unedig, ac mae mwy na’i hanner aros yng Nghymru’n gyfan gwbl.
Ar ôl eu casglu, caiff deunyddiau eu sortio, eu prosesu a'u troi’n rhywbeth newydd.
Felly, p'un a fyddi di mewn gŵyl neu'n crwydro Cymru'r haf hwn, mae gan bob potel, can, pot iogwrt a chroen banana sy'n cael ei ailgylchu'n gywir gyfle i fynd yn ôl ar daith.
Ailgylchu. Dyna rydyn ni'n ei wneud yng Nghymru.
Mae Cymru eisoes yn 2il genedl orau’r byd am ailgylchu, ond rydyn ni’n anelu am yr aur! Mae pob eitem sy'n cael ei hailgylchu'n gywir yn helpu Cymru symud un cam yn nes at y brig.

Mae dros 90% ohonom yn ailgylchu poteli pethau ymolchi plastig
A byddai ailgylchu 9 o boteli fel poteli eli haul yn arbed digon o drydan i bweru sgrin digwyddiad mawr am 2 awr.

Metel a gwydr sydd ag un o'r gyrfaoedd hiraf mewn ailgylchu
Gellir eu hailgylchu’n ddiddiwedd, dro ar ôl tro ar ôl tro, heb i’w ansawdd ddirywio o gwbl.

Mae 100% o’r gwydr sy'n cael ei ailgylchu yng Nghymru yn cael ei brosesu yn y DU
A byddai ailgylchu 1 botel wydr yn arbed digon o drydan i bweru amp gitâr am 6 awr.

Mae gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu'n ynni gwyrdd yng Nghymru
Byddai ailgylchu dim ond 2 groen banana yn cynhyrchu digon o drydan i wefru ffôn clyfar.

