Papur
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Papur mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Pa eitemau papur y gellir eu hailgylchu?
- Papur glân heb saim, olew, llwch llachar na ffoil arno; 
- Papur cyfrifiadur a phapur wedi’i rwygo’n fân (mewn symiau bach); 
- Amlenni, yn cynnwys y rhai sydd â ffenestri arnynt; 
- Cylchgronau, llyfrynnau, pamffledi, post sothach, llyfrau teleffon a chatalogau; 
- Papurau newydd phapurau ategol. 
Pa eitemau papur na ellir eu hailgylchu?
- Papur brown – dylid ailgylchu hwn gyda chardbord gan ei fod yn achosi brychni brown mewn papur newydd; 
- Nwyddau hylendid e.e. cewynnau, weips neu dyweli mislif; 
- Nwyddau hylendid e.e. cewynnau, weips neu dyweli mislif; 
- Papur sydd wedi’i staenio gyda bwydydd, saim, paent neu faw, e.e. lluniau mae plant wedi’u paentio, papur gwrthsaim neu bapur pobi; 
- Hen hancesi papur a phapur cegin; 
- Papurau gludiog e.e. Nodiadau Post-it, labeli gludiog neu dâp papur; 
- Weips gwlyb, gwlân cotwm, padiau colur; 
- Papur wal; 
- Tocynnau trên, neu docynnau digwyddiadau, sy’n cynnwys stripiau metelaidd; 
- Cardiau crafu; 
- Ffotograffau a negatifau. 
Mae’n dda gwybod
Deunydd lapio plastig oddi ar bapurau newydd a chylchgronau – gellir ailgylchu’r plastig hwn gyda bagiau plastig mewn archfarchnadoedd mwy.