Poteli Plastig
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Poteli Plastig mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Pa boteli plastig y gellir eu hailgylchu?
Holl boteli plastig clir a lliw a geir o amgylch y cartref;
Poteli nwyddau glanhau, e.e. hylifau glanhau ystafell ymolchi a channydd;
Poteli glanweithydd a sebon;
Poteli diodydd, e.e. poteli diodydd ysgafn a dŵr;
Poteli nwyddau ymolchi, e.e. poteli siampŵ, gel cawod a gofal croen;
Poteli llaeth;
Poteli bwyd planhigion parod a phlaladdwyr – gwiriwch y label.
Pa boteli plastig na ellir eu hailgylchu?
Poteli plastig sy’n cynnwys cemegion, e.e. gwrthrewydd.
Sut i ailgylchu poteli plastig
- 1
Gwagiwch a rinsiwch y poteli. Gall gweddillion bwydydd neu hylifau mewn poteli halogi eitemau eraill yn eich bag neu fin ailgylchu;
- 2
Os yw poteli’n cynnwys hylif, efallai na fyddant yn cael eu hailgylchu oherwydd gallai’r broses ddidoli awtomatig eu hystyried yn rhy drwm. Gall hylif hefyd beri difrod i’r peiriannau ailgylchu;
- 3
Gadewch y labeli arnynt – bydd y rhain yn cael eu tynnu’n awtomatig yn ystod y broses ailgylchu;
- 4
Gadewch unrhyw gaeadau, pigau arllwys a chwistrelli ar y poteli. Bydd y rhain yn cael eu tynnu’n awtomatig yn ystod y broses ailgylchu;
- 5
Gwasgwch boteli i arbed lle yn eich bag neu fin ailgylchu.
Mae’n dda gwybod
Amcangyfrifir bod cyfartaledd o 35.8 miliwn o boteli plastig yn cael eu defnyddio BOB DYDD yn y Deyrnas Unedig, ond dim ond 19.8 miliwn sy’n cael eu hailgylchu bob dydd.
Mae hyn yn golygu bod 16 miliwn o boteli plastig y diwrnod, ar gyfartaledd, yn methu â chyrraedd y bin ailgylchu.