Poteli Plastig
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Poteli Plastig mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Pa boteli plastig y gellir eu hailgylchu?
- Holl boteli plastig clir a lliw a geir o amgylch y cartref; 
- Poteli nwyddau glanhau, e.e. hylifau glanhau ystafell ymolchi a channydd; 
- Poteli glanweithydd a sebon; 
- Poteli diodydd, e.e. poteli diodydd ysgafn a dŵr; 
- Poteli nwyddau ymolchi, e.e. poteli siampŵ, gel cawod a gofal croen; 
- Poteli llaeth; 
- Poteli bwyd planhigion parod a phlaladdwyr – gwiriwch y label. 
Pa boteli plastig na ellir eu hailgylchu?
- Poteli plastig sy’n cynnwys cemegion, e.e. gwrthrewydd. 
Sut i ailgylchu poteli plastig
- 1Gwagiwch a rinsiwch y poteli. Gall gweddillion bwydydd neu hylifau mewn poteli halogi eitemau eraill yn eich bag neu fin ailgylchu; 
- 2Os yw poteli’n cynnwys hylif, efallai na fyddant yn cael eu hailgylchu oherwydd gallai’r broses ddidoli awtomatig eu hystyried yn rhy drwm. Gall hylif hefyd beri difrod i’r peiriannau ailgylchu; 
- 3Gadewch y labeli arnynt – bydd y rhain yn cael eu tynnu’n awtomatig yn ystod y broses ailgylchu; 
- 4Gadewch unrhyw gaeadau, pigau arllwys a chwistrelli ar y poteli. Bydd y rhain yn cael eu tynnu’n awtomatig yn ystod y broses ailgylchu; 
- 5Gwasgwch boteli i arbed lle yn eich bag neu fin ailgylchu. 
Mae’n dda gwybod
Amcangyfrifir bod cyfartaledd o 35.8 miliwn o boteli plastig yn cael eu defnyddio BOB DYDD yn y Deyrnas Unedig, ond dim ond 19.8 miliwn sy’n cael eu hailgylchu bob dydd.
Mae hyn yn golygu bod 16 miliwn o boteli plastig y diwrnod, ar gyfartaledd, yn methu â chyrraedd y bin ailgylchu.