Potiau a Thybiau Plastig
Ailgylchu gartref
Ailgylchu oddi cartref
Ydi, mae'n bosibl ailgylchu Potiau a Thybiau Plastig mewn rhai mannau ailgylchu oddi cartref.
Pa botiau a thybiau plastig y gellir eu hailgylchu?
- Potiau iogwrt; 
- Tybiau siocled neu losin; 
- Potiau bwyd a thybiau cawl neu nwdls; 
- Tybiau sy’n cynnwys nwyddau glanhau fel deunydd tynnu staeniau a glanweithydd; 
- Tybiau cig 
- Tybiau menyn a marjarîn; 
- Cynwysyddion tecawê a phrydau parod; 
- Tybiau plastig sy’n dal ffrwythau neu lysiau; 
- Potiau sy’n cynnwys cynnyrch gofal croen a gwallt; 
- Cynwysyddion teisennau. 
Nid yw’n bosibl ailgylchu potiau a thybiau plastig sydd wedi’u gwneud o blastig du neu frown yng Nghymru ar hyn o bryd.
Pa botiau a thybiau plastig na ellir eu hailgylchu?
- Potiau paent – ailgylchwch y rhain yn eich Canolfan Ailgylchu 
- Teganau plastig – ailgylchwch y rhain yn eich Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref; 
- Polystyren, e.e. y deunydd a ddaw y tu mewn i focsys nwyddau; 
- Pecynnau swigod plastig sy’n dal tabledi a chapsiwlau. 
Sut i ailgylchu potiau a thybiau plastig
- Defnyddiwch ddŵr golchi llestri dros ben i rinsio eich potiau a thybiau plastig cyn eu hailgylchu. Gall gweddillion bwyd halogi’r deunyddiau eraill i’w hailgylchu; 
- Gadewch unrhyw labeli a chaeadau arnynt ond tynnwch unrhyw haenau o blastig ystwyth a phadiau amsugnol, a rhowch y rhain yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu; 
- Ailgylchwch unrhyw lewys cardbord gyda’ch cardbord; 
- Tynnwch unrhyw gaeadau plastig ystwyth oddi ar eich potiau a thybiau a’u hailgylchu gyda bagiau plastig a deunydd lapio mewn siopau manwerthu mawr. Fel arall, rhowch nhw yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.