O'ch taith foreol i'r swyddfa, i’r antur penwythnos, mae dewis y bin cywir yn rhoi cyfle i'ch ailgylchu gael gyrfa hollol newydd. Darganfyddwch ble mae'n mynd nesaf a sut y gallwn ni helpu Cymru i gyrraedd Rhif 1 yn y byd am ailgylchu.
Dysga i ble mae dy ailgylchu'n mynd
Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy'n digwydd ar ôl i chi roi rhywbeth yn y bin cywir? Gwyliwch y ffilm i ddilyn y daith o'r eiliad y byddwch chi'n dewis y bin cywir i'r hyn sy'n digwydd nesaf.
Mae pob taith yn dechrau yn rhywle
Mae pob eitem rydych chi’n ei rhoi yn y bin cywir yn cychwyn ar daith. Ac mae'r rhan fwyaf o'r daith honno'n digwydd yn agos at adref. Mae bron i 90% o’r ailgylchu a gesglir yng Nghymru yn cael ei brosesu o fewn y Deyrnas Unedig, ac mae mwy na’i hanner yn aros yng Nghymru.
Ar ôl eu casglu, caiff deunyddiau eu didoli, eu prosesu a'u trawsnewid yn rhywbeth newydd, ac mae bwyd yn cael ei droi'n ynni adnewyddadwy a gwrtaith sy'n llawn ynni.
Felly, lle bynnag y byddwch chi, dewiswch y bin cywir ac anfon eich ailgylchu ar ei antur fawr nesaf.
Ailgylchu, dyna rydyn ni'n ei wneud yng Nghymru
Mae Cymru eisoes yn 2il genedl orau’r byd am ailgylchu, ond rydyn ni'n mynd am yr aur! Mae ailgylchu’n helpu i gadw deunyddiau mewn cylchrediad ac yn symud Cymru un cam yn nes at y brig.
A gallai eich ailgylchu hyd yn oed helpu i bweru diwrnod prysur...
Yn ôl i'r gwaith
Mae mis Medi yn golygu dychwelyd i’r drefn arferol ar ôl gwyliau'r haf. Mae'r gliniadur wedi'i ddeffro. Mae'r e-byst yn llifo i mewn. Mae galwadau'r Teams yn cronni. Mae ailgylchu un botel blastig yn arbed digon o ynni i wefru gliniadur bron i bedair gwaith. Dyna un botel fach yn gwneud cryn dipyn o waith.
Allan yn crwydro
Efallai bod yr haf drosodd, ond mae digon o ddyddiau hir i'w mwynhau o hyd. [INSERT STAT] gallai eitemau picnic wedi'u hailgylchu gynhyrchu digon o ynni i wefru ffôn clyfar. Felly manteisiwch i'r eithaf ar ddyddiau cynnar yr hydref, a phan fydd y picnic drosodd, anfonwch eich ailgylchu ar ei antur nesaf.
Yn ôl adref
Mae'r diwrnod gwaith wedi gorffen. Amser i roi eich traed i fyny. Mae ailgylchu un can yn arbed digon o ynni i bweru teledu am tua phedair awr. Felly tra byddwch chi'n gorffwys, gallai eich ailgylchu fod ar fin dechrau ei shifft.
Mynd i ddigwyddiad?
Mynd i gig, gŵyl neu ddigwyddiad? Peidiwch â gadael i'r daith ailgylchu ddod i ben pan fydd y gerddoriaeth yn dod i ben. Gallai [INSERT X] can wedi'u hailgylchu arbed digon o ynni i bweru amp gitâr am [X] awr. Dyna beth yw encôr gwerth chweil.
Cadw’r daith i fynd
O'r swyddfa i'r soffa. O'r daith i’r gwaith i'r arfordir. O arferion bob dydd i anturiaethau mawr. Dewiswch y bin cywir a rhowch rywle i’ch ailgylchu fynd nesaf.
Rydyn ni eisoes yn Rif 2 yn y byd. Dewch inni gael Cymru i Rif 1.