Dyma ein Uwch Reolwr Marchnata, Angela Spiteri, yn rhannu sut mae hi'n cadw ei wardrob hydref yn chwaethus, yn fforddiadwy ac yn gyfeillgar i'r blaned.
O’i foreau ffres i nosweithiau clyd, mae tymor yr hydref bob amser yn teimlo fel cyfle i ailwampio steil. Y dillad gwau trwchus, esgidiau cynnes ffynci, haenau beiddgar, a'r lliwiau euraidd clyd hyfryd hynny sy'n ein tywys tuag at sglein y Nadolig.
Ond yn lle gwario ar ffasiwn cyflym, rwy'n gwyro tuag at ffasiwn ail-law, dillad wedi'u trwsio ac wedi'u hail-ddychmygu i gadw pethau'n ffres, yn fforddiadwy, ac yn gynaliadwy. Gydag ychydig o greadigrwydd, gall gwisgoedd yr hydref fod yr un mor chwaethus (a llawer mwy unigryw) na rhai newydd, heb gostio ffortiwn.
Yma yng Nghymru, rydyn ni eisoes yn ail genedl orau’r byd am ailgylchu, ac mae bron i 70% ohonom yn prynu dillad ail-law o leiaf weithiau. Rydym am fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050, a symud oddi wrth ffasiwn cyflym yw'r rhodd orau y gallwn ei rhoi i'r blaned yr hydref hwn, a thu hwnt.
Dyma fy awgrymiadau defnyddiol ar gyfer edrych yn steilus mewn ffordd sy'n gyfeillgar i'r blaned – o wisgo haenau bob dydd i hwyl Calan Gaeaf a disgleirdeb y Nadolig.
1. Siopa yn dy wardrob yn gyntaf
Ar ddechrau pob tymor, rwy'n ailosod fy wardrob. Rwy'n tynnu pethau allan, yn ailddarganfod hen ffefrynnau, ac yn chwarae o gwmpas gyda chyfuniadau newydd. Mae sgertiau haf yn barod ar gyfer yr hydref gyda theits, esgidiau uchel, a chardigan drwchus am deimlad boho clyd, ac mae siaced wedi'i thaflu dros brintiau beiddgar yn rhoi gwedd hollol newydd iddynt.
Mae'n anhygoel faint o wisgoedd "newydd" y galli di eu creu dim ond trwy edrych ar yr hyn sydd gen ti eisoes gyda llygaid ffres. Gwario dim, steil i’r eithaf.
2. Steil ail-law ar gyfer yr hydref

Pan fydd angen ailwampio ychydig ar fy wardrob, dillad ail-law yw fy hoff beth. Cynllunia’n ofalus a chwilio am ddarnau sy'n gweithio gyda gwahanol wisgoedd. Cotiau, esgidiau, dillad gwau, dillad parti disglair ail-law – mae cymaint o opsiynau ail-law hyfryd ac unigryw. Maen nhw'n fwy caredig i’r waled ac yn rhoi gwedd chwaethus sy'n llawn personoliaeth na fyddet ti’n dod o hyd iddo ar y stryd fawr.
Os ydw i'n chwilio am rywbeth penodol ar Vinted, dyma fy awgrymiadau:
Chwilia yn ôl lliw, arddull neu frand ynghyd â dy faint dillad i hidlo’r dewisiadau.
Cadwa chwiliadau fel y cei wybod pan fydd yr eitem berffaith yn ymddangos.
Cadwa lygad ar awgrymiadau “eitemau tebyg” Vinted – dyna lle dw i wedi cael rhai o fy nhrysorau gorau.
Mae siopau elusen a hen bethau hefyd yn wych ar gyfer prynu’n ail-law – p'un a wyt ti'n chwilio am gôt hydref retro neu wisg Calan Gaeaf i blant. Rydw i wedi casglu rhai gemau llwyr dros y blynyddoedd – unigryw, fforddiadwy, a bob amser gyda stori.
3. Calan Gaeaf y ffordd gynaliadwy

Dw i wrth fy modd gyda Chalan Gaeaf – ond nid y gwisgoedd plastig, untro. Yn lle hynny, rwy'n dechrau gyda fy wardrob ac yn bod yn greadigol. Trwy ailddyfeisio fy ngwisgoedd gŵyl, sblash o baent wyneb a gemau disglair, ac ambell ddarn DIY, galli greu gwisg Calan Gaeaf unigryw, chwaethus a chynaliadwy.
Y wisg gŵyl liwgar honno + coron flodau = brenhines Diwrnod y Meirw.
Gwisga dy holl brint llewpard mewn haenau = Gwisg cath ffyrnig, ffynci.
Ffrog ddisglair, cyrn + colur dramatig = Diafol disgo.
I blant, mae ffeiriau cyfnewid, siopau elusen a marchnadoedd ar-lein ail-law fel Vinted ac eBay yn llawn gwisgoedd arswydus sydd ond wedi'u gwisgo unwaith neu lond llaw o weithiau, gan eu gwneud yn fforddiadwy ac yn isel eu heffaith.
4. Disgleirdeb y Nadolig heb y gwastraff

Dydi’r Dolig ddim cweit ar ein gwarchae eto, ond mae o ar y gorwel, ac wrth iddo nesáu, mae'n bendant yn werth ystyried sut i greu wardrob Nadoligaidd werdd.
Gall gwisgoedd mis Rhagfyr fod yn dipyn o her, ond rydw i wedi dysgu peidio â phrynu dillad ffasiwn cyflym mewn panig. Yn lle hynny, rwy'n dueddol o roi gwedd newydd i steiliau’r llynedd gydag ategolion gwahanol; gan fwynhau secwinau ail-law a darnau Nadoligaidd, neu fuddsoddi mewn ategolion trawiadol sy'n trawsnewid y wisg ar unwaith.
Os mai dim ond achlysur untro ydyw, mae benthyca neu rentu hefyd yn opsiwn gwych. Fel 'na, dw i'n dal i gael mwynhau rhywbeth hyfryd a chwaethus, ond heb iddo gasglu llwch yn y wardrob wedyn
5. Atgyweirio: Trwsio, adnewyddu, ailddyfeisio
Dyma'r tymor i roi gofal i ddarnau annwyl sy’n dangos ôl traul. Gall atgyweiriadau bach fel gwnïo sêm, trwsio tyllau neu wnïo botwm roi blynyddoedd mwy o oes i ddillad.
Ac os na alli di ddefnyddio nodwydd, dos i dy Gaffi Trwsio lleol. Gall gwirfoddolwyr drwsio dillad (a hyd yn oed offer trydanol a beiciau) am ddim tra byddi di’n mwynhau paned a sgwrs. Mae'n syml, yn gymdeithasol, ac yn achub dy ffefrynnau rhag mynd i safle tirlenwi. Dos i fwrw golwg ar Caffi Trwsio Cymru am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn dy ardal leol.
Mae uwchgylchu hefyd yn opsiwn gwych ac mae’n weithgaredd meddylgar iawn – cadwa lygad am weithdai a chyrsiau sy'n cael eu cynnal yn dy ardal di.